Cyfarfodydd

NDM6087 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/09/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

NDM6087 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gyfle gwych i Gymru roi hwb i fasnach, diwydiant a chyflogaeth.

2. Yn croesawu'r rhyddid y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei roi er mwyn llunio polisi penodol ar gyfer amaeth a physgota yng Nghymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio'n agos mewn ffordd gadarnhaol i fanteisio ar y cyfleoedd hyn a chynnwys pob plaid yn y Cynulliad yn ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU i elwa ar y buddiannau posibl i Gymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Dileu popeth a rhoi yn ei le:

'Yn cydnabod canlyniad y refferendwm ar 23 Mehefin ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i Gymru yn ystod y trafodaethau a fydd yn digwydd.'

Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn methu.

Gwelliant 2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi fod gan Gymru warged masnach â'r UE a bod cadw aelodaeth lawn o'r farchnad sengl yn hanfodol i fusnesau Cymru.

2. Yn gresynu at yr ansicrwydd y mae'r diwydiant amaeth yn ei wynebu o ganlyniad i adael Ewrop.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r gefnogaeth i'r sector addysg uwch, yn arbennig ym meysydd ymchwil a datblygu.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau trafodaethau rhwng y pedair gwlad ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn sicrhau y caiff buddiannau cenedlaethol Cymru eu cynnal yn ystod y broses o adael yr UE.

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.10

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM6087 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gyfle gwych i Gymru roi hwb i fasnach, diwydiant a chyflogaeth.

 

2. Yn croesawu'r rhyddid y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei roi er mwyn llunio polisi penodol ar gyfer amaeth a physgota yng Nghymru.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio'n agos mewn ffordd gadarnhaol i fanteisio ar y cyfleoedd hyn a chynnwys pob plaid yn y Cynulliad yn ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU i elwa ar y buddiannau posibl i Gymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

6

0

48

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

'Yn cydnabod canlyniad y refferendwm ar 23 Mehefin ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i Gymru yn ystod y trafodaethau a fydd yn digwydd.'

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

15

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM6087 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn cydnabod canlyniad y refferendwm ar 23 Mehefin ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i Gymru yn ystod y trafodaethau a fydd yn digwydd.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

6

55

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.