Cyfarfodydd

Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Seilwaith Band Eang y Genhedlaeth Nesaf

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/12/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (30 Tachwedd 2016)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/11/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Seilwaith Band Eang y Genhedlaeth Nesaf: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-09-16 Papur 5

 

James Price – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

Simon Jones – Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru

Mick McGuire - Cyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor blaenorol o'i ymchwiliad i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf

6.2 Holodd y Pwyllgor James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol a Simon Jones, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru ynglŷn â buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf.

6.3 Cytunodd James Price i anfon rhagor o wybodaeth yn egluro'r mentrau sy'n cael eu cymryd i godi ymwybyddiaeth a chynyddu sgiliau digidol ar gyfer defnyddwyr y rhyngrwyd.