Cyfarfodydd

Gyllid Cychwynnol Llywodraeth Cymru i brosiect Cylchffordd Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/10/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru: llythyr gan Lywodraeth Cymru (15 Awst 2018)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru

NDM6766 Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Cyllid Cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect CylchfforddCymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mai 2018.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2018.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.41

NDM6766 Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Cyllid Cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mai 2018.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2018.

 Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 09/07/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-19-18 Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau yr ymateb, gan gytuno y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.

 


Cyfarfod: 14/05/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (9 Mai 2018)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 30/04/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-12-18 Papur 2 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft ac fe’i derbyniwyd.

 


Cyfarfod: 16/04/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

10 Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-10-18 Papur 11 – Gohebiaeth â Chwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd

PAC(5)-10-18 Papur 12 – Gohebiaeth â Llywodraeth Cymru

PAC(5)-10-18 Papur 13 - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth rhwng y Cadeirydd a'r Heads of the Valleys Development Company a'r ffaith y disgwylir ymateb yn nes ymlaen yr wythnos hon gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

10.2 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried drafft arall mewn cyfarfod o'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 12/03/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Gohebiaeth y pwyllgor

PAC(5)-08-18 Papur 1- Llythyr gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-08-18 Papur 2 - Materion allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau y llythyr a gafwyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol, a oedd yn egluro nifer o faterion a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 5 Chwefror.

3.2 Trafododd yr Aelodau y materion allweddol a ddaeth i'r amlwg yn ystod yr ymchwiliad. Nodwyd bod y Clercod yn paratoi adroddiad drafft i'w ystyried.

 


Cyfarfod: 05/02/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Briff Ymchwil

 

Shan Morgan – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

Andrew Jeffreys - Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu'r Pwyllgor yn holi Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru; Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru; ac Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth Cymru, ynghylch cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru.

3.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol i ysgrifennu at y Cadeirydd i egluro nifer o bwyntiau a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth.

 


Cyfarfod: 05/02/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

10.1 Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd yr Aelodau y dylai’r Clercod baratoi adroddiad drafft y byddant yn ei drafod ynghyd â'r wybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

 

 


Cyfarfod: 22/01/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(5)-02-18 Papur 2 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Ysgrifennydd Parhaol (14 Rhagfyr 2017)

PAC(5)-02-18 Papur 3 – Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol at Gadeirydd (16 Ionawr 2018)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd yr Aelodau yr ohebiaeth a ddaeth i law ar brosiect Cylchffordd Cymru a barn y mwyafrif o'r Pwyllgor oedd cynnal sesiwn lafar gyda'r Ysgrifennydd Parhaol ar 5 Chwefror.

 


Cyfarfod: 04/12/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

1 Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Gohebiaeth gyda Llywodraeth Cymru

PAC(5)-31-17 Papur 1– Llythyr gan Gadeirydd at Lywodraeth Cymru

PAC(5)-31-17 Papur 2 – Llythyr gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-31-17 Papur 3 – Gohebiaeth flaenorol a drafodwyd yn y yfarfod ar 2 Hydref 2017

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1       Bu'r Aelodau'n ystyried ac yn trafod yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

1.2       Cytunodd yr Aelodau y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol gyda'u pryderon ac yn cynghori y gallent fod am gymryd tystiolaeth lafar ganddi.

 


Cyfarfod: 02/10/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

11 Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Trafod gohebiaeth y Pwyllgor

PAC(5)-24-17 Papur 6 - Llythyr gan y Cadeirydd at Lywodraeth Cymru (12 Gorffennaf 2017)

PAC(5)-24-17 Papur 7 – Llythyr gan Lywodraeth Cymru at y Cadeirydd (11 Medi 2017)

PAC(5)-24-17 Papur 8 – Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at y Cadeirydd (14 Medi 2017)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law gan gytuno y dylai'r Cadeirydd ateb llythyr James Price dyddiedig 11 Medi yn gofyn am ragor o eglurhad ynglŷn â nifer o bwyntiau, gan gynnwys y rhai y cyfeiriwyd ato yn ei sesiwn ffarwél.

 

 


Cyfarfod: 25/09/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru: Y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar

Cofnodion:

9.1 Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod ymateb manwl i'w lythyr ar 26 Mehefin wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru a bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi rhoi sylwadau arno.

9.2 Oherwydd pwysau amser, dywedodd nad oedd digon o amser i ystyried a thrafod yr ymatebion yn fanwl.

9.3 Cytunodd yr aelodau i drafod yr ohebiaeth hon yn ystod y cyfarfod ar 2 Hydref 2017.

 


Cyfarfod: 26/06/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd, a gwnaethant gytuno y byddai adroddiad yn cael ei baratoi i'r Aelodau ei ystyried.

 


Cyfarfod: 26/06/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru: Sesiwn dystiolaeth

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-18-17 Papur 1 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-18-17 Papur 2 – Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-18-17 Papur 3 – Llythyr gan Lywodraeth Cymru (16 Mehefin 2017)

PAC(5)-18-17 Papur 4 – Llythyr gan Lywodraeth Cymru (21 Mehefin 2017)

PAC(5)-18-17 Papur 4A – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru (21 Mehefin 2017)

PAC(5)-18-17 Papur 4B – Llythyr gan Lywodraeth Cymru i Gadeirydd y Pwyllgor (23 Mehefin 2017)

PAC(5)-18-17 Papur 4C – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru (23 Mehefin 2017)

 

James Price - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

Tracey Mayes - Pennaeth Llywodraethiant a Chydymffurfiaeth, Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad agoriadol ynghylch yr ohebiaeth ddiweddar rhwng Llywodraeth Cymru ac ef ei hun.

3.2 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda James Price, dirprwy ysgrifennydd parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru; a Tracey Mayes, pennaeth llywodraethu a chydymffurfio Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru, ar y cyllid cychwynnol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i brosiect Cylchffordd Cymru.

3.3 Cytunodd James Price i gymryd y camau a ganlyn:

·       Ysgrifennu at y Pwyllgor gyda manylion ynghylch cyfanswm y gwariant a gafwyd hyd yn hyn a'r cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu; 

·       Anfon y canllawiau mewnol y mae swyddogion yn glynu wrthynt pan fyddant yn asesu ceisiadau grant;

·       Darparu manylion pellach am y broses diwydrwydd dyladwy a ddilynwyd, yn dilyn penderfyniad y Cabinet ynghylch ariannu prosiect Cylchffordd Cymru; ac

·       Ymchwilio i bwy yn Llywodraeth Cymru wnaeth y sylw am 'grandstanding' a gafodd ei gynnwys mewn datganiad i'r wasg, a darparu'r wybodaeth berthnasol i'r Cadeirydd.

 


Cyfarfod: 08/05/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Cylchffordd Cymru: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-13-17 Papur 3 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-13-17 Papur 4 –  Datganiad Llywodraeth Cymru ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cynhaliodd Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio i'r Aelodau ar ei adroddiad diweddar ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru.

7.2 Mae Aelodau wedi nodi'n flaenorol eu bod yn dymuno craffu ar Lywodraeth Cymru ynghylch y mater hwn. Mae cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru wedi'u gwahodd i gyfarfod y Pwyllgor ar 12 Mehefin.

 

 


Cyfarfod: 19/09/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Cylchffordd Cymru

PAC(5)-03-16 PTN1: Llythyr oddi wrth David T. C. Davies AS at Nick Ramsay AC

PAC(5)-03-16 PTN2: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-03-16 PTN1: Llythyr oddi wrth Nick Ramsay AC at David T. C. Davies AS

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Aeth yr Aelodau ati i drafod a nodi'r ohebiaeth a chytuno i edrych eto ar y mater hwn ar ôl i ganfyddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru ddod i law.