Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Heddlua a Throsedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/09/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Plismona a Throsedd

NDM6098 Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plismona a Throsedd sy'n diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983 a Deddf Troseddau Rhywiol 2003, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mehefin 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i) a (iii).

'Bil Plismona a Throsedd'

Dogfennau Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Plismona a Throsedd

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.41

NDM6098 Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plismona a Throsedd sy'n diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983 a Deddf Troseddau Rhywiol 2003, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 15/09/2016 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Plismona a Throseddu: ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a'r llythyr oddi wrth Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. 3.2 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft, a fydd yn cael ei osod cyn y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno adrodd ar 22 Medi 2016.

 


Cyfarfod: 14/07/2016 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Plismona a Throseddu: ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.