Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/09/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog)

NDM6090 Ken Skates (De Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog) sy'n ymwneud â gwarchod eiddo diwylliannol mewn achos o wrthdaro arfog, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mehefin 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Bil Eiddio Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog) [HL] 2016-17 — Senedd y DU (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau Ategol

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.25

NDM6090 Ken Skates (De Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog) sy'n ymwneud â gwarchod eiddo diwylliannol mewn achos o wrthdaro arfog, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 14/07/2016 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.