Cyfarfodydd

Rhwydwaith Dechrau'n Deg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/03/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Gwybodaeth ychwanegol am rôl Ymwelwyr Iechyd yn rhaglen Dechrau'n Deg gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 22/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 CYP(4)-06-12 (papur 2) - Dechrau'n Deg

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 01/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Dechrau'n Deg

Ystyried y cylch gorchwyl.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Yn dilyn y sesiwn graffu ar y rhaglen Dechrau’n Deg gyda’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 26 Ionawr, cytunodd yr Aelodau y byddai’n fwy priodol ailystyried y mater hwn ymhen chwe mis.


Cyfarfod: 26/01/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Dechrau'n Deg

Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Martin Swain, Pennaeth Is-adran y Strategaeth Plant a Phobl Ifanc

Glyn Jones, Pennaeth Gwasanaethau Ystadegol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion ynghylch y rhaglen Dechrau’n Deg.

 

Camau i’w cymryd

 

·         Cytunodd y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch teuluoedd sy’n cael Cymhorthdal Incwm sy’n rhan o’r rhaglen Dechrau’n Deg.

 

·         Cytunodd y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymchwilio i’r honiadau bod byrddau iechyd lleol yn rhewi’r broses o recriwtio ymwelwyr iechyd generig o ganlyniad i’r gyllideb ar gyfer ymwelwyr iechyd ychwanegol sydd ar gael yn y rhaglen Dechrau’n Deg.


Cyfarfod: 12/01/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Dechrau'n Deg: Ystyried y cylch gorchwyl

Cofnodion:

6.1 Bu’r Aelodau’n trafod y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad i Dechrau’n Deg yn y dyfodol.


Cyfarfod: 21/09/2011 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Rhwydwaith Dechrau'n Deg - Trafod y Prif Faterion (10:00 - 11:15)

Karen Jones; Rheolwr Dechrau’n Deg, Gogledd Cymru

Nia McIntosh; Rheolwr Dechrau’n Deg, Gorllewin Cymru

Fran Dale; Rheolwr Dechrau’n Deg, Dwyrain Cymru

Chris Koukos; Rheolwr Dechrau’n Deg, De Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion i’r cyfarfod. Holwyd y tystion gan Aelodau.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Blant yng Nghymru ynghylch y mater yn ymwneud â’r gofrestr amddiffyn plant a godwyd ym mhapur y sefydliad.

 

3.3 Cytunodd cydgysylltwyr Dechrau’n Deg i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor ar yr elfennau y gellid eu cynnwys wrth greu fersiwn lai o Dechrau’n Deg.

 

3.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion er mwyn gofyn y cwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y cyfarfod.