Cyfarfodydd
P-05-697 45,000 o Resymau Pam bod ar Gymru Angen Strategaeth ar Ddementia
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 21/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-697 45,000 o Resymau Pam bod ar Gymru Angen Strategaeth ar Ddementia
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 25 KB Gweld fel HTML (3/1) 7 KB
- 08.02.17 Gohebiaeth - Deisebydd at y Pwyllgor, Eitem 3 PDF 24 KB Gweld fel HTML (3/2) 2 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried bod
prif nod y ddeiseb yn cael ei diwallu bellach, cytunodd i gau'r ddeiseb. Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau am ddiolch
i'r deisebwyr am eu hymgysylltiad â'r broses ddeisebu.
Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-697 45,000 o Resymau Pam bod ar Gymru Angen Strategaeth ar Ddementia
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 20 KB Gweld fel HTML (3/1) 7 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 3 PDF 45 KB Gweld fel HTML (3/2) 39 KB
- 10.08.2016 Gohebiaeth - Y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 2 MB
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr, a oedd wedi’u
gwahodd i fod yn rhan o grŵp gorchwyl a gorffen a oedd i gael ei sefydlu i
ddatblygu strategaeth dementia, i ofyn iddynt annog y rhai sydd wedi llofnodi’r
ddeiseb i roi eu barn ar y strategaeth pan gaiff ymgynghoriad ei chynnal arni.
Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-697 45,000 o Resymau Pam bod ar Gymru Angen Strategaeth ar Ddementia
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn
barn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar y materion a
godwyd yn y ddeiseb.