Cyfarfodydd

Ymchwiliad i Iechyd y Geg mewn Plant yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/05/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar Iechyd y Geg mewn Plant

NDM4971 Christine Chapman (Cwm Cynon)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar yr ymchwiliad i iechyd y geg ymhlith plant, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Chwefror 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 25 Ebrill 2012.

 

Dogfennau Ategol:

Adroddiad gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15:12.

 

NDM4971 Christine Chapman (Cwm Cynon)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar yr ymchwiliad i iechyd y geg ymhlith plant, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Chwefror 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 25 Ebrill 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 01/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Iechyd y geg mewn plant yng Nghymru: Ystyried yr adroddiad terfynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft ar iechyd y geg mewn plant a chytunwyd y dylid lansio’r adroddiad mewn ysgol sy’n cymryd rhan yn Cynllun Gwên.


Cyfarfod: 26/01/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Iechyd y Geg mewn Plant yng Nghymru

Ystyried yr adroddiad drafft

Cofnodion:

5.1 Yn amodol ar wneud rhai mân newidiadau, cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft ar Iechyd y Geg mewn Plant.


Cyfarfod: 12/01/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Iechyd y Geg mewn Plant yng Nghymru: Ystyried yr argymhellion drafft

Cofnodion:

5.1 Bu’r Aelodau’n trafod argymhellion drafft yr ymchwiliad ar iechyd y geg.  


Cyfarfod: 12/01/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Papur CYP(4)-01-12 Papur 6 - Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (dyddiedig 14 Rhagfyr 2011) yn ymateb i faterion a godwyd yn ystod y drafodaeth ar yr ymchwiliad i iechyd y geg mewn plant yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 3 Tachwedd 2011

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 23/11/2011 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymchwiliad i iechyd y geg - ystyried y prif faterion

Cofnodion:

5.1 Bu’r Aelodau yn trafod y prif faterion a godwyd yn ystod yr ymchwiliad i iechyd y geg gan nodi y bydd argymhellion drafft ar gael iddynt i’w hystyried yn y cyfarfod ar 7 Rhagfyr.


Cyfarfod: 03/11/2011 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Iechyd y Geg mewn Plant yng Nghymru: Craffu ar waith y Gweinidog

·         Lesley Griffiths; y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

·         Yr Athro Ivor G Chestnutt; Athro a Meddyg Ymgynghorol Anrhydeddus, Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd

·         Andrew Powell-Chandler; Pennaeth Polisi Deintyddol  

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r Gweinidog.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am:

·         Werthuso’r rhaglen Cynllun Gwên

·         Nifer y plant o fewn ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol sydd wedi cofrestru â gwasanaeth deintyddol cymunedol y tu allan i’r Cynllun Gwên

·         Nifer y plant sydd wedi’u cynnwys yn y cwintel isaf ac sy’n cael eu targedu er mwyn codi’r lefel i’r cwintel canol

·         Manylion, fesul awdurdod lleol, am yr ysgolion sydd wedi’u cynnwys yn y rhaglen ond sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r ardaloedd a dargedwyd

·         Nifer yr ymwelwyr iechyd sy’n ymwneud â’r broses o weithredu’r rhaglen Cynllun Gwên ar gyfer plant 0-3 oed, a sut y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu

·         Y gwerthusiad a gynhaliwyd gan Weinidogion blaenorol Cymru i’r posibiliadau o fflworideiddio dŵr, a’r dystiolaeth ategol.


Cyfarfod: 13/10/2011 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i Iechyd y Geg mewn Plant: sesiwn dystiolaeth

Paula Roberts; Y Rhwydwaith Ysgolion Iach

Mary MacDonald; Y Rhwydwaith Ysgolion Iach

Carol Maher; Y Rhwydwaith Ysgolion Iach

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Mary MacDonald, Carol Maher a Paula Roberts. Holodd yr Aelodau y tystion.

 

3.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am eglurhad o rôl nyrsys ysgol.

 

 


Cyfarfod: 13/10/2011 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Iechyd y Geg mewn Plant: sesiwn dystiolaeth

David Davies; Gwasanaeth deintyddol cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd David Davies i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.


Cyfarfod: 29/09/2011 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Iechyd y Geg mewn Plant yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth

Huw Bennett, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Hugh Bennett i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tyst.


Cyfarfod: 29/09/2011 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i Iechyd y Geg mewn Plant yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth

Nigel Monaghan, Cymdeithas Prydain ar gyfer Astudio Deintyddiaeth Gymunedol

Maria Morgan, Cymdeithas Prydain ar gyfer Astudio Deintyddiaeth Gymunedol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Croesawodd y Cadeirydd Nigel Monaghan a Maria Morgan i’r cyfarfod.  Holodd yr Aelodau y tystion.


Cyfarfod: 29/09/2011 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i Iechyd y Geg mewn Plant yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth

Mechelle Collard, Cymdeithas Deintyddol Pediatrig Prydain

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeiryddd Mechelle Collard a Shannu Bhatia i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.

 

 


Cyfarfod: 21/09/2011 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Iechyd y Geg mewn Plant yng Nghymru: Sesiwn Dystiolaeth ( 9:20 -10:00)

Dr Sue Greening, Cadeirydd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain - Cyngor Cymru

Stuart Geddes, Cyfarwyddwr Cymdeithas Ddeintyddol Prydain Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr Sue Greening a Stuart Geddes i’r cyfarfod. Holwyd y tystion gan Aelodau.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion er mwyn gofyn y cwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y cyfarfod.