Cyfarfodydd
Rhaglen Waith Weithdrefnol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/12/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7.)
Gwaith Gweithdrefnol
Cyfarfod: 05/12/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7.1)
Diwygio'r Senedd: Parodrwydd Gweithdrefnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 3
Cyfarfod: 14/11/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Gwaith Gweithdrefnol
Cyfarfod: 14/11/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Gweithdrefnau sy'n ofynnol er mwyn craffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
Cofnodion:
Yn
dilyn argymhellion a wnaed yn flaenorol gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder
a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, trafododd y Pwyllgor
Busnes gynigion ar gyfer:
- diwygio'r Rheolau Sefydlog i sicrhau bod dogfennau sy'n cyd-fynd â
Biliau ac Is-ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn cynnwys asesiad o effaith
Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020;
- Rheol Sefydlog newydd a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth
Cymru hysbysu’r Senedd am effaith deddfwriaeth mewn rhannau eraill o'r DU
a allai, yn rhinwedd y Ddeddf Marchnad Fewnol, effeithio ar werthu nwyddau
a gwasanaethau yng Nghymru; a
- hysbysu am effaith fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan ar
ddeddfwriaeth y Senedd.
Dywedodd
y Trefnydd nad yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod y cynigion yn angenrheidiol
ar y sail nad yw'n ystyried bod Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig yn cael
effaith ar ddeddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd.
Cytunodd
y Pwyllgor Busnes i ofyn am farn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r
Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Fforwm y Cadeiryddion
am y cynigion, gyda’r bwriad o ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y
dyfodol.
Cyfarfod: 17/10/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Papur i'w Nodi: Terfynau amser ar atebion gweinidogol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
Nododd
y Pwyllgor Busnes bapur ar gyflwyno terfynau amser ar atebion gweinidogol yn Senedd yr Alban a chytunodd i
ddychwelyd at drafodaeth bellach ar y pwnc hwn unwaith y bydd rhagor o
wybodaeth ar gael am effaith y newid yn yr Alban.
Cyfarfod: 17/10/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Gwaith Gweithdrefnol
Cyfarfod: 17/10/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Newidiadau i'r Canllawiau ar Gwestiynau Amserol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 15
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y newidiadau
arfaethedig i'r canllawiau ar Gwestiynau Amserol, yn ymwneud â'r broses
gyhoeddi, darparu gwybodaeth ategol gan Aelodau a'r nifer uchaf o Gwestiynau
Amserol a fydd fel arfer yn cael eu derbyn ym mhob sesiwn, a chytunodd arnynt.
Cyfarfod: 03/10/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Rheol Sefydlog 26C - Deddfau Cydgrynhoi’r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes nifer o
sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar ôl
iddo ystyried y Bil Cydgrynhoi cyntaf a gyflwynwyd yn y Senedd, sef Bil yr
Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), a chytunodd i gynnal adolygiad cyfyngedig o'r
Rheolau Sefydlog perthnasol cyn cyflwyno'r Bil Cydgrynhoi nesaf, a chyn yr
adolygiad llawn y bwriedir ei gynnal yn ddiweddarach yn ystod y Senedd hon.
Cyfarfod: 03/10/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Gwaith Gweithdrefnol
Cyfarfod: 12/09/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Gwaith Gweithdrefnol
Cyfarfod: 12/09/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Papur ar Raglen Waith Weithdrefnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 25
Cofnodion:
Nododd
y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar amserlennu arfaethedig ei waith
gweithdrefnol.
Cynigiodd
Darren Millar y dylid ystyried gosod terfyn amser ar ymatebion gweinidogol i
gwestiynau.
Cyfarfod: 12/09/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Gweithdrefnau sydd eu hangen er mwyn craffu ar Offerynnau Statudol sy'n deillio o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 28
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor Busnes y papur a chytunodd i ymgynghori â'r Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y dull arfaethedig o ddiwygio Rheolau Sefydlog
21, 27 a 30C, a dileu Rheol Sefydlog 30B, gyda'r bwriad o gynnig newidiadau i'r
Senedd wedi hynny.
Cyfarfod: 12/09/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Cwestiynau Amserol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 31
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor Busnes adborth a gafwyd gan grwpiau a nifer o faterion eraill yn
ymwneud â'r canllawiau a'r gweithdrefnau presennol ar gyfer Cwestiynau Amserol.
Cytunodd
y Pwyllgor y byddai'n ystyried cynigion ar gyfer diwygiadau posibl i ganllawiau
mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cyfarfod: 27/06/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Ystyriaethau gweithdrefnol ar ôl gadael yr UE
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 34
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
adolygu'r Rheolau Sefydlog perthnasol a nodwyd yn argymhellion diweddar y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn perthynas ag effaith ymarferol
Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 ar ddeddfwriaeth a wnaed gan y Senedd, neu sy’n
effeithio arni.
Fel rhan o'r adolygiad, nododd y
Pwyllgor Busnes y bydd cynigion yn cael eu cynhyrchu mewn perthynas â'r ffyrdd
posibl y gellid diwygio Rheolau Sefydlog, a chytunwyd y byddai'n ymgynghori â'r
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i
ystyried cynigion i newid y trefniadau craffu cyfredol ar gyfer Fframweithiau
Polisi Cyffredin fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor Materion Allanol a
Deddfwriaeth Ychwanegol y Bumed Senedd, mewn ymgynghoriad â Fforwm y
Cadeiryddion.
Cyfarfod: 27/06/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Rhaglen waith weithdrefnol
Cyfarfod: 09/05/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Rhaglen waith weithdrefnol
Cyfarfod: 09/05/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Rhaglen waith weithdrefnol y Pwyllgor Busnes
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 41
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes raglen ddiwygiedig
ar gyfer ei waith gweithrefnol, a chytunodd arni, gan gynnwys trafod ymhellach
yr eitemau a ganlyn cyn cyn toriad yr haf:
- Cyflwyno
‘uwch-ddadleuon’ yn y Cyfarfod Llawn
- Diwygiadau
gweithdrefnol ar ôl Brexit
- Biliau
Aelodau
- Materion
sy'n codi o ganlyniad i Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Cytunodd y Pwyllgor i roi
ystyriaeth bellach i waith gweithdrefnol a all fod yn ofynnol o ganlyniad i
ddiwygio'r Senedd pan fydd deddfwriaeth wedi'i chyflwyno.