Cyfarfodydd
Diogelwch - i ffwrdd o ystâd y Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 07/11/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr am Brosiect Diogelwch Swyddfeydd
a Chartrefi’r Aelodau, sy'n cael ei arwain gan y tîm Diogelwch.
Croesawodd y Comisiynwyr y cynnydd ers i'r prosiect ddechrau, yn ogystal
â’r wybodaeth am yr opsiynau a’r gofynion yn y dyfodol mewn perthynas â
diogelwch Aelodau. Trafodwyd pwysigrwydd cymryd camau er budd diogelwch staff
yr Aelodau, yn ogystal â’r etholwyr sy’n ymweld â’r swyddfeydd.
Cytunodd y Comisiynwyr
i bwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau'r tîm Diogelwch, yn enwedig o ran
diogelwch yn y cartref, ymhlith aelodau eu grwpiau.
Cyfarfod: 14/03/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr adroddiad cynnydd ar y camau sy'n cael eu cymryd i
gefnogi Aelodau i wneud gwelliannau diogelwch ac ar waith y Tîm Diogelwch i
gynyddu ei effeithiolrwydd ymhellach wrth gefnogi Aelodau i gadw’n ddiogel.
Cytunwyd y byddai'n
ddefnyddiol i'r wybodaeth gael ei rhannu â’r holl Aelodau fel dechrau proses o
sicrhau bod yr Aelodau’n cael y wybodaeth ddiweddaraf am y materion hyn yn
rheolaidd.
Cyfarfod: 13/12/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch
Cofnodion:
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf
i'r Comisiynwyr am y mesurau sy'n cael eu cymryd o ran materion diogelwch a
amlygwyd yn ddiweddar.
Rhoddwyd gwybod i'r
Comisiynwyr hefyd am drafodaethau sy'n mynd rhagddynt ar lefel uwch rhwng y
Comisiwn a heddluoedd yng Nghymru.
Cyfarfod: 08/11/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Diogelwch
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
Hysbyswyd y Comisiynwyr am gynlluniau a chanllawiau yn ymwneud â
phrotestiadau ar yr ystâd.
Fe'u hysbyswyd hefyd o fesurau diogelwch ychwanegol sy'n cael eu roi ar
waith er mwyn rhoi cyngor i’r Aelodau a’u staff a gwella eu diogelwch personol,
ochr yn ochr â'r gefnogaeth bresennol sydd ar gael. Roedd camau hefyd yn cael
eu cymryd i symleiddio'r broses o gyflwyno newidiadau diogelwch angenrheidiol.
Cytunodd y Comisiynwyr y byddant yn pwysleisio i’w grwpiau ba mor bwysig ydyw
i’r Aelodau ymgysylltu â gwasanaeth diogelwch y Comisiwn.
Roedd y Comisiwn wedi
cael cais i ystyried cymryd rhan yng nghynllun diogelwch cymunedol Safe Place.
Ar ôl ystyried y goblygiadau yn ofalus, roedd y Comisiynwyr yn teimlo na
ddylai'r Comisiwn ymuno â'r cynllun o safbwynt risg diogelwch; fodd bynnag,
nodwyd a chroesawyd ymdrechion y timau diogelwch ar y safle i gynnig cefnogaeth
anffurfiol ar sawl achlysur.
Cyfarfod: 02/11/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Diogelwch personol
Eitem lafar
Cofnodion:
Yn ddiweddar, nodwyd
rhai Aelodau eu bod wedi profi materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein a
throlio. Rhoddwyd gwybodaeth i’r Comisiynwyr am y gefnogaeth a oedd ar gael, gan
gynnwys tudalen newydd ar y fewnrwyd, a chamau pellach y gellid eu cymryd.
Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth a ddarparwyd a chytunwyd i dynnu sylw at y
dudalen newydd ar y fewnrwyd gan ddod â gwybodaeth berthnasol ynghyd i aelodau
eu grwpiau.
Cyfarfod: 05/12/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad yr adolygiad diogelwch ar gyfer swyddfeydd Aelodau
Eitem lafar
Cofnodion:
Yn dilyn
cefnogaeth y Comisiwn ar gyfer adolygiad o ddiogelwch mewn perthynas â
swyddfeydd etholaethol/rhanbarthol Aelodau, rhoddodd Dave Tosh y wybodaeth
ddiweddaraf i'r Comisiynwyr am gynnydd y gwaith hwnnw, ac amlygodd fod cymorth
yn cael ei gynnig i Reolwyr Swyddfa gan wasanaeth Cymorth Busnes yr Aelodau.
Roedd
Comisiynwyr yn arbennig o awyddus bod yr Aelodau'n deall eu cyfrifoldebau i
gymryd camau priodol yn dilyn yr adolygiad.
Mae nodyn yn cael ei baratoi gan wasanaeth cyfreithiol y Comisiwn a bydd
yn cael ei anfon at yr Aelodau cyn hir.
Cyfarfod: 11/07/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Diogelwch yr Aelodau a'r staff oddi ar ystâd y Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17