Cyfarfodydd
NDM6058 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 06/07/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
- Gweddarllediad ar gyfer 06/07/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 06/07/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6058
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Caroline Jones
(Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod gan gwmni
dur Tata ym Mhort Talbot well gobaith o oroesi yn dilyn Brexit.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn nodi pa mor bwysig
ydyw i Tata UK gael mynediad i'r Farchnad Sengl.
Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2
a 3 yn methu.
Gwelliant 2 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
1. Yn cydnabod rôl
hanfodol y gweithfeydd dur ym Mhort Talbot, Llanwern, Shotton a Throstre i
economi Cymru a'r holl Deyrnas Unedig.
2. Yn cydnabod gwaith
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU tuag at gynorthwyo TATA i ganfod prynwr
credadwy i waith dur Port Talbot.
3. Yn annog Llywodraeth
Cymru a Llywodraeth y DU i gydweithio i lunio strategaeth i sicrhau hyfywedd a
photensial hirdymor y diwydiant dur yng Nghymru.
4. Yn annog Llywodraeth
y DU a Llywodraeth Cymru i gydweithio â gwledydd eraill yn Ewrop ac ar draws y
byd i sicrhau cytundebau masnach sydd o fantais i ddiwydiant dur Cymru.
Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn
methu.
Gwelliant 3 - Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl
'credu' a rhoi yn ei le:
'ei bod yn bwysicach nag
erioed, yn dilyn canlyniad Refferendwm yr UE, bod Llywodraeth y DU yn gweithio
gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r diwydiant gwneud dur
yng Nghymru.'
Gwelliant 4 - Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn parhau i bwyso ar
Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ganfod ffyrdd o gefnogi holl ddiwydiant
dur Cymru.
Gwelliant 5 - Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddefnyddio arian presennol yr UE i hyrwyddo cynigion Plaid Cymru, yn
benodol Cronfa Fuddsoddi Strategol Ewrop fel y gall y gwaith ynni adnewyddadwy
newydd gael ei adeiladu ar safle TATA ym Mhort Talbot i fynd i'r afael â'r
mater o gostau ynni uchel, a Horizon 2020, fel y gall canolfan ymchwil a
datblygu dur gael ei sefydlu ar Gampws Arloesi Prifysgol Abertawe i wella
cyfleoedd busnes TATA UK.
Gwelliant 6 - Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid ychwanegol i olynydd Tata os oes
angen hyn o ganlyniad i'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig ag ymadawiad y DU â'r
Undeb Ewropeaidd.
Gwelliant 7 - Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at
benderfyniad UKIP i bleidleisio yn erbyn cynigion Moderneiddio'r Comisiwn
Ewropeaidd yn Senedd Ewrop - mesurau a fyddai wedi arwain at gostau llawer uwch
yn cael eu codi ar ddur o Tsieina sy’n cael ei lwytho ar farchnadoedd Ewrop.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.50
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6058
Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod gan gwmni
dur Tata ym Mhort Talbot well gobaith o oroesi yn dilyn Brexit.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
43 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn nodi pa mor bwysig
ydyw i Tata UK gael mynediad i'r Farchnad Sengl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
14 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod
gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Gwelliant
4 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
i ganfod ffyrdd o gefnogi holl ddiwydiant dur Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
2 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant
5 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio arian presennol
yr UE i hyrwyddo cynigion Plaid Cymru, yn benodol Cronfa Fuddsoddi Strategol
Ewrop fel y gall y gwaith ynni adnewyddadwy newydd gael ei adeiladu ar safle
TATA ym Mhort Talbot i fynd i'r afael â'r mater o gostau ynni uchel, a Horizon
2020, fel y gall canolfan ymchwil a datblygu dur gael ei sefydlu ar Gampws
Arloesi Prifysgol Abertawe i wella cyfleoedd busnes TATA UK.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
10 |
27 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant
6 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu
cyllid ychwanegol i olynydd Tata os oes angen hyn o ganlyniad i'r ansicrwydd
sy'n gysylltiedig ag ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
44 |
1 |
2 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant
7 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at
benderfyniad UKIP i bleidleisio yn erbyn cynigion Moderneiddio'r Comisiwn
Ewropeaidd yn Senedd Ewrop - mesurau a fyddai wedi arwain at gostau llawer uwch
yn cael eu codi ar ddur o Tsieina sy’n cael ei lwytho ar farchnadoedd Ewrop.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
34 |
9 |
5 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6058
Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pa mor bwysig ydyw i Tata UK gael mynediad i'r Farchnad Sengl.
2. Yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU i ganfod ffyrdd o gefnogi holl ddiwydiant dur Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid ychwanegol i olynydd Tata os oes
angen hyn o ganlyniad i'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig ag ymadawiad y DU â'r
Undeb Ewropeaidd.
4. Yn gresynu at benderfyniad UKIP i bleidleisio yn erbyn cynigion
Moderneiddio'r Comisiwn Ewropeaidd yn Senedd Ewrop - mesurau a fyddai wedi
arwain at gostau llawer uwch yn cael eu codi ar ddur o Tsieina sy’n cael ei
lwytho ar farchnadoedd Ewrop.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
5 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio.