Cyfarfodydd

Ymchwiliad i adfywio canol trefi

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/06/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Adfywio canol trefi

Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn dilyn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill (Adfywio canol trefi)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.


Cyfarfod: 29/04/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Adfywio canol trefi

Russell Greenslade, Prif Weithredwr, Ardal Gwella Busnes Abertawe

Antonia Pompa, Cydlynydd, Ardal Gwella Busnes Merthyr Tudful

Ojay McDonald, Rheolwr Polisi, y Gymdeithas Rheoli Trefi a Dinasoedd

Rhiannon Kingsley, Rheolwr Canol y Dref, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Atebodd Russell Greenslade, Antonia Pompa, Ojay McDonald a Rhiannon Kingsley gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

4.2 Cytunodd Ojay McDonald i ddarparu copi o adroddiad y Gymdeithas Rheoli Trefi a Dinasoedd ar ei hymgynghoriad ar ardrethi busnes pan fydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben.

4.3 Cytunodd Russell Greenslade i ddarparu gwybodaeth bellach am fanteision Ardaloedd Gwella Busnes a gweithgareddau Ardal Gwella Busnes Abertawe.


Cyfarfod: 29/04/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Adroddiad gan yr ATCM ar Barcio mewn Canol Trefi (Saesneg yn unig)

Adroddiad a ddarparwyd gan yr ATCM ar barcio mewn canol trefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.


Cyfarfod: 29/04/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Adfywio canol trefi - craffu dilynol

Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Kath Palmer, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd

Steffan Roberts, Rheolwr Adfywio, Cartrefi a Lleoedd

Neil Hemington, Pennaeth Cynllunio, y Gyfarwyddiaeth Gynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Lesley Griffiths, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Kath Palmer, Steffan Roberts a Neil Hemington gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth bellach am yr hyn a ganlyn:

·         Nodyn ar nifer yr ymwelwyr â Bargoed, yn dilyn gosod archfarchnad Morrisons yng nghanol y dref.

·         Gwybodaeth am y meini prawf a ddefnyddir i ddyrannu cyllid o’r gronfa trechu tlodi, Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, ac eglurhad o ran sut mae’n cyd-fynd â’r polisi ‘canol trefi yn gyntaf’ gan gyfeirio’n benodol at yr enghraifft o’r cyllid a ddarperir ar gyfer Ynys y Bari.

·         Nodyn i egluro pam y mae’n ymddangos bod polisi ‘canol trefi yn gyntaf’ Llywodraeth Cymru dim ond yn cael ei roi ar waith yn sgil datblygiadau manwerthu heb ystyriaeth o leoliad swyddfeydd neu wasanaethau a staff awdurdodau lleol.


Cyfarfod: 29/04/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Adfywio canol trefi

Andy Godfrey, Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Bolisi Llywodraeth Leol, Consortiwm Manwerthu Prydain a Rheolwr Polisi Cyhoeddus Boots

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Andy Godfrey gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 28/03/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Adfywio Canol Trefi

NDM4952 Nick Ramsay (Mynwy)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Adfywio Canol Trefi a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2012.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mawrth 2012.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes

Ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.00.

 

NDM4952 Nick Ramsay (Mynwy)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Adfywio Canol Trefi a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2012.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mawrth 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 11/01/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i adfywio canol trefi: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad, a chytunodd arno, yn amodol  ar weithredu’r gwelliannau a gynigwyd.


Cyfarfod: 08/12/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i adfywio canol trefi: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad ar adfywio canol trefi.


Cyfarfod: 24/11/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i adfywio canol trefi: sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog

EBC(4)-10-11 Papur 1, 2 & 3

 

Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Steffan Roberts – Pennaeth Ardal Adfywio Aberystwyth
Rosemary Thomas – Pennaeth yr Is-adran Gynllunio
Chris Warner –Pennaeth Polisi - Adfywio

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn i’r Pwyllgor:

·         Gwybodaeth am bolisïau cynllunio sy’n cynnwys y meini prawf o ran angen mewn perthynas â manwerthu.

·         Rhestr o’r cynigion a gyfeiriwyd i wasanaeth adolygu Comisiwn Dylunio Cymru.

·         Cymhariaeth o’r ddarpariaeth bresennol o grantiau â’r symiau a ddyrennid yn hanesyddol gan Awdurdod Datblygu Cymru cyn iddo uno â Llywodraeth Cymru.

·         Manylion yr £8 miliwn a ddyrannwyd i Fae Caerdydd o gyllideb y Gweinidog.

 


Cyfarfod: 02/11/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i adfywio canol trefi : sesiwn dystiolaeth

 

EBC(4)-08-11 Papur 3 (Saesneg yn Unig)

Carole-Anne Davies, Comisiwn Dylunio Cymru

Alan Francis, Comisiwn Dylunio Cymru

 

EBC(4)-08-11 Papur 4 (Saesneg yn Unig)

Jennifer Stewart, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru

Ian Morrison, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Carole-Anne Davies, Alan Francis, Jennifer Stewart ac Ian Morrison i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.   

 

3.2 Cytunodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri i ddarparu:

·         Crynodeb o arolwg Cronfa Dreftadaeth y Loteri o fentrau Treftadaeth Treflun mewn perthynas â chanol trefi.

·         Copi o adroddiad gwerthuso y cynllun hwnnw.

 

 


Cyfarfod: 02/11/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i adfywio canol trefi : sesiwn dystiolaeth

 

EBC(4)-08-11 Papur 1 (Saesneg yn Unig)

Lee Waters, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru

Liz Thorne,  Sustrans Cymru

 

EBC(4)-08-11 Papur 2 (Saesneg yn Unig)

Clive Campbell, Cadeirydd Grŵp Polisi Cynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Lee Waters, Liz Thorne, a Clive Campbell i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.

 

2.2 Cytunodd Sustrans i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:

·         Tystiolaeth o effaith datblygu llwybrau beicio a cherdded ar ganol trefi.  

·         Tystiolaeth o’r niferau sy’n teithio i’r dref mewn car neu mewn modd mwy cynaliadwy.


Cyfarfod: 06/10/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i adfywio canol trefi : sesiwn dystiolaeth

Tom Ironside; Consortiwm Manwerthu Prydain

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Tom Ironside i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tyst.

 

3.2 Cytunodd Tom Ironside i ddarparu rhagor o wybodaeth am weithwyr yn y sector manwerthu yng Nghymru.  


Cyfarfod: 06/10/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i adfywio canol trefi : sesiwn dystiolaeth

Iestyn Davies; Ffederasiwn Busnesau Bach

Julie Williamson; Masnachwraig canol trefAbertawe

Sue Morris; Masnachwraig canol tref – Llandudno

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Iestyn Davies, Sue Morris a Julie Williamson i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.


Cyfarfod: 06/10/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i adfywio canol trefi : sesiwn dystiolaeth

EBC(4)-04-11 Papur 2

 

Russell Greenslade; Prif Weithredwr- Ardal Gwella Busnes Abertawe

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Russell Greenslade a Juliet Luporini i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.

 

2.2 Cytunodd Russell Greenslade i rannu papur â’r Pwyllgor ar y cynllun yn Rotherham i annog busnes yng nghanol y dref.


Cyfarfod: 06/10/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i adfywio canol trefi : sesiwn dystiolaeth

EBC(04)-04-11 Papur 1 

 

Martin Blackwell; Prif Weithredwr - Y Gymdeithas Rheoli Canol Trefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Martin Blackwell i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tyst.

 

2.2 Cytunodd Martin Blackwell i ddarparu rhagor o wybodaeth am yr ystadegau ar unedau gwag yng Nghymru

 

 


Cyfarfod: 06/10/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i adfywio canol trefi : sesiwn dystiolaeth

EBC(4)-04-11 Papur 3

 

Sian Wilton; Boots Cymru

Andrew Godfrey; Boots

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Siân Wilton ac Andrew Godfrey i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.

 

4.2 Cytunodd Andrew Godfrey i rannu copi o’r adroddiad ar ardaloedd gwella busnes gan Brifysgol Ulster.


Cyfarfod: 28/09/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i adfywio canol trefi : Sesiwn dystiolaeth

EBC(4)-03-11 Papur 2

 

Dr Tim Peppin; Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru

Roger Tanner; Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr Tim Peppin o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a Roger Tanner o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Holwyd y tystion gan Aelodau.


Cyfarfod: 28/09/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i adfywio canol trefi : Sesiwn dystiolaeth

EBC(4)-03-11 Papur 1

 

Dave Adamson; Prif Weithredwr, Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru

Andrew Dakin; Dirprwy Brif Weithredwr, Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Dave Adamson ac Andrew Dakin i’r cyfarfod. Holwyd y tystion gan Aelodau.