Cyfarfodydd

Ymchwiliad i aflonyddu ar sail anabledd yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/02/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Aflonyddu ar sail Anabledd yng Nghymru

NDM4918 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Aflonyddu ar sail Anabledd yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Rhagfyr 2011.

 

Dogfennau Ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Ymateb y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

 

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.59

 

NDM4918 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Aflonyddu ar sail Anabledd yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Rhagfyr 2011.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 09/02/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 CELG(4)-04-12 : Papur 2

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar aflonyddu ar sail anabledd yng Nghymru.

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 07/12/2011 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 CELG(4)-10-11 : Papur 2

Gwybodaeth ddilynol i’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Medi, gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 29/09/2011 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Aflonyddu ar sail anabledd - casglu tystiolaeth

 

Anabledd Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru  (09.30 – 10.10)

CELG(4)-03-11 (p1)

CELG(4)-03-11 (p2)

·         Rhian Davies, Prif Weithredwr, Anabledd Cymru

·         Miranda French, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Anabledd Cymru

·         Jim Crowe, Cyfarwyddwr, Anabledd Dysgu Cymru

·         Karen Warner, Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth, Anabledd Dysgu Cymru

 

Egwyl (10.10 – 10.20)

 

Cymru Ddiogelach (10.20 – 11.00)

CELG(4)-03-11 (p3)

·         Mark Williams, Cydgysylltydd er Atal Troseddau Casineb

·         Bernie Bowen-Thomson, Dirprwy Brif Weithredwr

 

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (11.00 -11.40)

CELG(4)-03-11 (p4)

·         Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Materion Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

·         David Morgan, Swyddog Polisi (Cydraddoldeb)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion canlynol: Rhian Davies a Miranda French o Anabledd Cymru; Jim Crowe a Karen Warner o Anabledd Dysgu Cymru; Mark Williams a Bernie Bowen-Thomson o Cymru Ddiogelach; a Naomi Alleyne a David Morgan o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

 

2.2 Gwnaeth y tystion gyflwyniadau cyn ateb cwestiynau gan Aelodau.

 

2.3 Bydd CLlLC yn darparu nodyn am y protocol ar gyfer rhannu gwybodaeth ynghylch oedolion sy’n agored i niwed.

 

2.4 Bydd CLlLC yn darparu nodyn am y gwaith sy’n mynd rhagddo mewn ysgolion ynghylch aflonyddu ar sail anabledd.

 

2.5 Cytunodd cynghorydd cyfreithiol y Pwyllgor i ddarparu nodyn am ddiogelu data.


Cyfarfod: 21/09/2011 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Aflonyddu ar sail anabledd - casglu tystiolaeth

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru (09.30 – 10.30)

CELG(4)-02-11 (p1)

CELG(4)-02-11 (p1a)

·         Kate Bennett, Cyfarwyddwr Cenedlaethol

·         Sue Dye, Pennaeth Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

 

Egwyl (10.30 – 10.40)

 

Mencap Cymru (10.40 – 11.20)

CELG(4)-02-11 (p2)

·         Wayne Crocker, Cyfarwyddwr

·         Claire Bowler, Cyd-gadeirydd, Mencap Cymru

·         Dawn Gullis, Swyddog Materion Allanol, Mencap Cymru

 

Prosiect Ymchwil Trosedd Casineb Cymru Gyfan (11.20 – 12.00)

CELG(4)-02-11 (p3)

·         Dr Mair Rigby, Swyddog Prosiect, Race Equality First

·         Dr Jasmin Tregidga, Cydymaith Ymchwil, Prifysgol Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion canlynol: Kate Bennett a Sue Dye o’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru; Wayne Crocker, Claire Bowler a Dawn Gullis o Mencap Cymru; a Dr Mair Rigby a Dr Jasmin Tregidga o Brifysgol Caerdydd.

 

2.2 Gwnaeth y tystion gyflwyniadau cyn ateb cwestiynau gan Aelodau.

 

2.3 Cytunodd Kate Bennett i anfon copi o ‘Pa mor deg yw Cymru?’, sef adroddiad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, at Glerc y Pwyllgor.

 

2.4 Cytunodd Dr Mair Rigby i anfon dwy ddogfen yn ymwneud ag aflonyddu ar sail anabledd at Glerc y Pwyllgor.