Cyfarfodydd
Cyfarfod Llawn
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 30/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Cyfarfod Llawn
Cyfarfod: 30/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Llythyr gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i
Aelodau o'r Pwyllgor gael eu hesgusodi o'r Cyfarfod Llawn ar yr adegau y
gofynnwyd amdanynt a nodwyd y rhesymau pam nad oedd y pwyllgor wedi gallu dod o
hyd i slot cyfarfod arall y tro hwn.
Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Y Cyfarfod Llawn
Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Rheoli amser y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9
Cofnodion:
Trafododd y
Rheolwyr Busnes y papur, a chytunwyd i drefnu llai o ddadleuon eraill pan fydd
eitemau 30 munud fel cwestiynau'r Comisiwn wedi'u trefnu.
Cyfarfod: 06/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Y Cyfarfod Llawn
Cyfarfod: 29/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Cyfarfod Llawn Hybrid
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth bellach
y gofynnwyd amdani, a chytunwyd i dreialu cyfarfodydd llawn hybrid ar 8 a 15
Gorffennaf, i baratoi'r Senedd ar gyfer tymor yr hydref.
Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes annog
Aelodau i fynychu hyfforddiant ar y system bleidleisio o bell yr wythnos hon.
Cyfarfod: 29/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Y Cyfarfod Llawn
Cyfarfod: 22/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Dyddiadau Toriadau a Chyfarfodydd Llawn Hybrid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylid galw'r Senedd yn ôl ddwywaith ym mis Awst o dan Reol
Sefydlog 34.9 i ystyried canlyniad yr adolygiadau tair wythnos o reoliadau
Coronafeirws. Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal ddydd Mercher 5 a dydd
Mercher 26 Awst.
Trafododd
y Rheolwyr Busnes y cynnig i gynnal cyfarfodydd llawn hybrid ar 8 a 15
Gorffennaf, a chytunwyd mewn egwyddor ar y cynnig. Cadarnhaodd y Llywydd y
byddai'n mynd i'r Siambr ddydd Gwener i brofi'r dechnoleg a'r trefniadau
ymarferol, ac y byddai'n adrodd yn ôl i'r Pwyllgor yn y cyfarfod yr wythnos
nesaf.
Cyfarfod: 22/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Y Cyfarfod Llawn
Cyfarfod: 15/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Y Cyfarfod Llawn
Cyfarfod: 15/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Busnes y Cyfarfod Llawn: Pleidleisio o Bell, Cwestiynau Llafar, a busnes nad yw'n gysylltiedig â Covid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 25
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i'r newid i'r
Rheolau Sefydlog i ddarparu ar gyfer pleidleisio o bell i'r Aelodau, a
defnyddio pleidleisio o bell cyn gynted ag y bydd y Llywydd wedi penderfynu bod
y system yn barod i'w defnyddio. Ychwanegir cynnig at agenda'r Cyfarfod Llawn
yr wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes hefyd mai'r dulliadu y
dylid eu defnyddio i rybuddio Aelodau am bleidlais sydd ar fin digwydd fydd
rhybudd llafar neu rybudd arall yn y Cyfarfod Llawn rhithwir neu hybrid.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r Llywydd ailgyflwyno
Cwestiynau Llafar o'r wythnos nesaf. Byddai Cwestiynau Llafar:
• yn cynnwys
cwestiynau i'r Prif Weinidog ac i ddau Weinidog arall bob wythnos, gyda phob
sesiwn yn 45 munud o hyd;
• yn gallu
bod ar unrhyw fater o fewn y portffolio perthnasol, ac nid oes angen eu cyfyngu
i faterion Covid-19;
• yn destun
terfynau amser tebyg i'r rhai a ddefnyddir ar gyfer datganiadau.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes bod y
llywodraeth, gyda'r dychweliad y Cwestiynau i'r Prif Weinidog, yn annhebygol o
barhau i amserlennu datganiad gan y Prif Weinidog bob wythnos.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes na ddylid cyfyngu dadleuon yr
wrthblaid na busnes y llywodraeth i faterion Covid-19 yn y dyfodol os oes
materion eraill sy'n arbennig o berthnasol, ond mai'r disgwyl yw y bydd busnes
yn parhau i ganolbwyntio i raddau helaeth ar faterion Covid-19.
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cyfyngiadau cyfredol o 10
cwestiwn ysgrifenedig yr wythnos a roddir ar bob Aelod yn ystod y pandemig hwn.
Dywedodd y Llywydd y byddent yn dychwelyd at y mater yr wythnos nesaf a
gofynwyd i'r Ysgrifenyddiaeth am ganllawiau pellach ar yr arfer mewn mannau
eraill.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Llywydd alw
cwestiynau ar y Datganiad a'r Cyhoeddiad Busness am amser cyfyngedig o 15
munud, gan ddechrau'r wythnos nesaf. Caiff cyfraniadau aelodau eu cyfyngu i 1
funud a'r disgwyliad yw y bydd y Gweinidog hefyd yn cadw ei hymatebion yn
gryno.
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn
cyflwyno cynigion ynghylch y toriad ac ar y Cyfarfod Llawn hybrid i'r cyfarfod
yr wythnos nesaf a gofynnodd i'r Rheolwyr Busnes drafod hyn â'u grwpiau yn y
cyfamser.
Cyfarfod: 01/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Papur i'w nodi - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 28
Cofnodion:
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr.
Cyfarfod: 01/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 31
Cofnodion:
Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a
chytunwyd mewn egwyddor i amserlennu dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau
gwariant Llywodraeth Cymru yn ystod yr wythnos olaf cyn toriad yr haf.
Cyfarfod: 01/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 34
Cofnodion:
Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a
chytunwyd i barhau â'r arfer o amserlennu dim ond busnes yn ymwneud â Covid-19
am y tro, ac i hysbysu'r Pwyllgor o hynny. Cytunwyd hefyd y dylai'r Pwyllgor
Deisebau ysgrifennu eto pe bai am amserlennu dadl yn ymwneud â deiseb yn
ymwneud â Covid.
Cyfarfod: 01/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Y Cyfarfod Llawn
Cyfarfod: 18/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Busnes y Cyfarfod Llawn a'r Argyfwng Covid-19
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 39
- Cyfyngedig 40
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynyddu nifer yr
Aelodau a ganiateir mewn Cyfarfod Llawn rhithwir i hyd at y 60 llawn o'r
wythnos ar ôl hanner tymor. Tynnodd y
Llywydd sylw at yr angen i Reolwyr Busnes barhau i hysbysu swyddogion ymlaen
llawn o ran pa Aelodau fydd yn bresennol yn y cyfarfod.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i barhau i
ddefnyddio'r system bleidleisio wedi'i phwysoli, ac i rannu'r cyfarfod yn
sesiynau bore a phrynhawn os bydd cynnydd sylweddol mewn busnes. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y byddant yn gwneud penderfyniad yn wythnosol ar amser
dechrau'r Cyfarfod Llawn.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ei bod yn bwysig
arwain drwy esiampl a dilyn y canllawiau ymbellhau cymdeithasol tan y bydd y
canllawiau hynny'n newid. Cytunwyd i ddychwelyd at faterion yn ymwneud â
chyfarfodydd ffisegol neu 'hybrid' ar ôl unrhyw newidiadau i ganllawiau
Llywodraeth Cymru yn unig.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu
un awr ychwanegol yr wythnos o fusnes nad yw'n fusnes y llywodraeth, gan
gychwyn o'r wythnos ar ôl hanner tymor, ac amserlennu un ddadl yr wythnos am y
tair wythnos nesaf, gan wrthblaid.
Nododd y Rheolwyr Busnes mai'r ddadl nesaf, o dan yr amserlen a oedd yn
cael ei dilyn cyn atal busnes arferol dros dro, fyddai dadl Plaid Brexit, ond
penderfynodd y Pwyllgor amserlennu'r tair dadl nesaf yn ôl trefn maint y
grwpiau, a dilyn y gymhareb arferol wedi hynny. Gwrthwynebodd Caroline Jones y
penderfyniad hwn. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai angen i'r dadleuon fod yn
gysylltieidig â materion Cofid-19.
Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyr gan
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn awgrymu sefydlu pwyllgor penodol ar gyfer
Covid-19. Cafwyd barn wahanol ynghylch buddioldeb y cynnig, a gofynnodd y
Pwyllgor i'r ysgrifenyddiaeth am bapur cwmpasu ar y broses o sefydlu pwyllgor
o'r fath.
Cyfarfod: 18/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Y Cyfarfod Llawn
Cyfarfod: 11/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Busnes y Cyfarfod Llawn a'r Argyfwng Covid-19
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 45
Cofnodion:
Roedd
mwyafrif y Rheolwyr Busnes yn fodlon i'r Cyfarfod Llawn barhau i gael ei gynnal
ar ddydd Mercher am y tro. Roeddent yn cytuno hefyd pe bai'r busnes yn
cynyddu'n sylweddol - er enghraifft adroddiadau Pwyllgorau ar Covid-19 yn
ymwneud â chraffu - byddai angen rhannu'r cyfarfod yn sesiynau bore a
phrynhawn.
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gynyddu'r gymhareb o nifer yr Aelodau Llafur (gan gynnwys
Gweinidogion), y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru a Phlaid Brexit i 16, 8, 7 a 3
o'r wythnos hon, gyda'r posibilrwydd o gynyddu nifer yr Aelodau i'r 60 llawn ar
ôl yr hanner tymor.
Trafododd
y Rheolwyr Busnes weddill yr elfennau ar y papur a chytuno i drafod gyda'u
grwpiau a dychwelyd at y mater wythnos nesaf, gyda'r bwriad o wneud newidiadau
ar ôl yr hanner tymor.
Awgrymodd
Darren Millar greu pwyllgor ar wahân i ganolbwyntio ar Covid-19, fel yr
argymhellwyd mewn llythyr gan Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig at y Llywydd.
Gofynnodd y Llywydd i'r ysgrifenyddiaeth ddosbarthu llythyr at y Rheolwyr
Busnes y tu allan i'r pwyllgor, ac i grwpiau ystyried y cynnig ynghyd â'r papur
ar y Cyfarfod Llawn.
Cyfarfod: 11/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Y Cyfarfod Llawn
Cyfarfod: 11/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 50
Cofnodion:
Mae'r
Pwyllgor Busnes wedi cytuno i amserlennu dim ond dadleuon yn ymwneud â Covid-19
yn y tymor byr, a nododd y Rheolwyr Busnes hefyd nad yw Senedd Frys rithwir yn
gydnaws, ar hyn o bryd, â dadleuon a thrafodaethau ar faterion yn ymwneud â
Safonau.
Er mai
mater i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yw sancsiynau, nododd y Pwyllgor Busnes
hefyd efallai nad yw rhai o'r sancsiynau a restrir yn Rheol Sefydlog 22.10,
megis tynnu hawliau oddi ar Aelod o ran mynediad i ystâd y Senedd, yn briodol
yn yr amgylchedd seneddol rithwir.
Cyfarfod: 04/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Cais i amserlennu dadl ar NNDM7321.
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 53
Cofnodion:
Trafododd
y Rheolwyr Busnes y cynnig a chytunwyd mai'r Pwyllgor Busnes yw'r fforwm
priodol i werthuso'r ffyrdd mwyaf effeithiol o barhau i graffu yn y sefyllfa
bresennol. Daethant i'r casgliad hefyd mai'r defnydd gorau o amser y Cyfarfod
Llawn ar hyn o bryd yw craffu ar faterion Covid-19. Felly ni fyddent yn trefnu
amser i drafod y cynnig.
Cyfarfod: 04/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Y Cyfarfod Llawn
Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Pleidleisio drwy ddirprwy
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 58
Cofnodion:
Trafododd y Rheolwyr
Busnes y papur ac ymatebion gan Aelodau i'r ymgynghoriad, ochr yn ochr â'r
wybodaeth ddiweddaraf gan Dŷ'r Cyffredin, a chytunwyd mewn egwyddor i
gyflwyno cynllun pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant ar sail
prawf tan ddiwedd y Cynulliad hwn. Gofynnodd y Pwyllgor i'r Ysgrifenyddiaeth
gyflwyno cynigion ar gyfer canllawiau a newidiadau i Reolau Sefydlog i gyfarfod
yn y dyfodol.
Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Y Cyfarfod Llawn
Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Pleidleisio drwy Ddirprwy
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 63
Cofnodion:
Business Managers discussed
the paper and agreed that, as well as consulting with their groups on the
proposals, the Llywydd would write to all Members inviting comments both on
parental leave in the first instance, and also about the question of wider
eligibility for proxy voting. Business Managers also asked the Secretariat to
contact Clerks in the House of Commons to ascertain the expected timeframes for
their review, originally expected at the end of January.
Business Managers agreed to return to the matter at their meeting on 15 January, where they would consider the views of their groups alongside any other responses received from Members.
Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Cyfarfod Llawn
Cyfarfod: 12/11/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Pleidleisio drwy ddirprwy
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 68
Cofnodion:
Trafodwyd
y papur gan y Rheolwyr Busnes, a gofynnodd Darren Miller i wrthwynebiad mewn
egwyddor Grŵp y Ceidwadwyr i bleidleisio drwy ddirprwy gael ei gofnodi.
Fodd bynnag, cytunodd y Rheolwyr Busnes i edrych ar gyflwyno pleidleisio drwy
ddirprwy mewn dau gam. Yn gyntaf, ystyried ei weithredu ar gyfer absenoldeb
rhiant yn unig, ac yn ail ystyried y posibilrwydd o'i ymestyn i salwch tymor
hir a chyfrifoldebau gofalu eraill, ar ôl i Dŷ'r Cyffredin adolygu ei
gynllun.
Gofynnodd
y Rheolwyr Busnes i'r Ysgrifenyddiaeth ddod â phapur iddynt ar yr opsiynau ar
gyfer gweithredu pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant yn unig
yn y lle cyntaf.
Cyfarfod: 12/11/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Y Cyfarfod Llawn
Cyfarfod: 22/10/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Papur i'w nodi - Llythyr gan Gadeirydd y Bwrdd Taliadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 73
Cofnodion:
Nododd y
Rheolwyr Busnes y llythyr.
Cyfarfod: 22/10/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Pleidleisio drwy Ddirprwy
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 76
Cofnodion:
Ystyriodd
y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd i drafod â'u grwpiau a dychwelyd ato yn
eu cyfarfod ar 12 Tachwedd.
Cyfarfod: 22/10/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Y Cyfarfod Llawn
Cyfarfod: 24/09/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Cais i amserlennu dadl ar NNDM7127.
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 81
Cofnodion:
Trafododd
y Rheolwyr Busnes y cais. Roedd Darren Millar a Caroline Jones o blaid, ond
roedd Rhun ap Iorwerth a Rebecca Evans yn erbyn, ac felly penderfyniad y
mwyafrif oedd peidio â threfnu'r ddadl. Dywedodd Rhun ap Iorwerth mai'r
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fyddai yn y sefyllfa orau i drafod y mater, gan ei
fod wedi ystyried y mater cyn yr haf, ond dywedodd Darren Millar fod Cadeirydd
y Pwyllgor wedi nodi na fyddai, yn dilyn y datganiad gan y Prif Weinidog, yn
dychwelyd at y mater.
Cafwyd
trafodaeth onest ynghylch cymhellion posibl gwahanol grwpiau wrth gefnogi neu
wrthwynebu amserlennu'r cynnig.
Cyfarfod: 24/09/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Llythyr gan y Dirprwy Lywydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 84
Cofnodion:
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu cyfarfod byr o
Bwyllgor y Cynulliad Cyfan ar 1 Hydref 2019, yn syth ar ôl yr eitem olaf o
fusnes y Cyfarfod Llawn y diwrnod hwnnw, er mwyn cytuno ar gynnig i amrywio
trefn drafod trafodion Cyfnod 2 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) ar gyfer yr
wythnos ganlynol.
Cyfarfod: 24/09/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Y Cyfarfod Llawn
Cyfarfod: 17/09/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Cais i amserlennu dadl ar NNDM7127.
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 89
Cofnodion:
Trafododd
y Rheolwyr Busnes y cais a chytunwyd i ymgynghori â'u grwpiau. Gofynasant hefyd
am gyngor cyfreithiol pellach i lywio eu hystyriaeth yr wythnos nesaf.
Cyfarfod: 17/09/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Y Cyfarfod Llawn