Cyfarfodydd

NDM6052 - Dadl Plaid Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Dadl Plaid Cymru

NDM6052 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn credu y dylai Bil Cymru wneud darpariaeth i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy ar bob lefel, ac eithrio etholiadau i Senedd Ewrop a Thŷ'r Cyffredin, er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg ar gyfer pob safbwynt wleidyddol.

 

Cyflwynwyd y Gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu popeth ar ôl "Cynulliad Cenedlaethol Cymru i" ac yn ei le rhoi "benderfynu ar drefniadau etholiadol sydd ar gyfer Cymru yn unig yn y dyfodol."

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.09

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM6052 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn credu y dylai Bil Cymru wneud darpariaeth i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy ar bob lefel, ac eithrio etholiadau i Senedd Ewrop a Thŷ'r Cyffredin, er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg ar gyfer pob safbwynt wleidyddol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

39

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu popeth ar ôl "Cynulliad Cenedlaethol Cymru i" ac yn ei le rhoi "benderfynu ar drefniadau etholiadol sydd ar gyfer Cymru yn unig yn y dyfodol."

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

1

11

51

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM6052 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn credu y dylai Bil Cymru wneud darpariaeth i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i benderfynu ar drefniadau etholiadol sydd ar gyfer Cymru yn unig yn y dyfodol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

1

2

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.