Cyfarfodydd

Blaenraglen Waith - y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Adroddiad Gwaddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad gwaddol, a chytunodd i wneud nifer o argymhellion i'w hystyried gan ei bwyllgor olynol yn y Senedd nesaf.

 


Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Adolygiad o’r deisebau sy'n cael eu hystyried

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Adolygodd y Pwyllgor restr o'r deisebau eraill sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd. Yn unol â'i arwydd blaenorol y byddai'n trosglwyddo nifer gyfyngedig o ddeisebau i'w hystyried ymhellach gan ei bwyllgor olynol ar ôl Etholiad y Senedd, cytunodd ar y camau arfaethedig ar y deisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd a amlinellir yn y papur a ddarparwyd. 

 


Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Arferion Gwaith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddadansoddiad o’r cynnydd diweddar o ran nifer y bobl sy’n defnyddio proses ddeisebau’r Senedd. Cytunodd y Pwyllgor i wneud rhai addasiadau i'w ddull o drafod deisebau i'w helpu i nodi'r materion hynny a fyddai'n elwa o graffu manylach, a cheisio datrys y mwyafrif o ddeisebau o fewn cyfnod byrrach, o ystyried pa mor agos yw etholiadau nesaf y Senedd.

 

Hefyd, nododd y Pwyllgor y nifer sylweddol o ddeisebau sydd wedi mynd y tu hwnt i’r trothwy 5000 llofnod ar hyn o bryd a chytunodd i drafod y mater hwn ymhellach, gan gynnwys opsiynau ar gyfer diwygio'r trothwy dros dro neu'n barhaol, yn ei gyfarfod nesaf.

 

Hefyd, trafododd y Pwyllgor y rhestr gyfredol o ddadleuon y gofynnwyd amdanynt a chytunodd i beidio â pharhau i geisio dadl ar ei adroddiad ar P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai a P-05-916 Cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm yn lladd-dai Cymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Ionawr 2020 ond ni lwyddwyd i’w drafod bryd hynny. O ystyried faint o amser sydd wedi mynd heibio, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am eu cyfraniad.

 


Cyfarfod: 23/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Trafodaeth ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei Flaenraglen Waith a chytuno ar amserlen o sesiynau tystiolaeth yn ystod mis Tachwedd, ac i ailedrych ar y Flaenraglen Waith yn ddiweddarach yn nhymor yr hydref.

 

 


Cyfarfod: 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunodd y Pwyllgor i drafod ei flaenraglen waith y tu allan i'r cyfarfod.

 


Cyfarfod: 06/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y flaenraglen waith a chytunodd ar amserlen ar gyfer sesiynau tystiolaeth yn y dyfodol.

 

Mewn perthynas â P-05-751, Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant, cytunodd y Pwyllgor i wahodd CAFCASS Cymru a'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant i roi tystiolaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol, ac i geisio tystiolaeth ysgrifenedig ynglŷn â'r ddeiseb gan nifer o sefydliadau eraill.

 

 


Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Blaenraglen waith


Cyfarfod: 17/01/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.