Cyfarfodydd

NDM6032 - Dadl Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6032 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod y rôl y mae llywodraeth leol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus i gymunedau ledled Cymru.

 

2. Yn nodi â phryder yr ansicrwydd y mae diffyg eglurder ynghylch diwygio llywodraeth leol yn ei gael o ran darparu gwasanaethau effeithiol.

 

3. Yn cydnabod bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael â difaterwch pleidleiswyr yng Nghymru, o gofio bod nifer y bobl a wnaeth fwrw pleidlais yn etholiadau llywodraeth leol Cymru yn 2012 yn isel, sef cyfartaledd o 38.9 y cant, a oedd bedwar y cant yn is na'r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau lleol yn 2008.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu amserlen dros dro ar gyfer ei chynlluniau i ddiwygio awdurdodau lleol Cymru, ac i gymryd rhan mewn proses ymgynghori gadarn.

 

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
 
Mewnosod ar ôl pwynt 3:

 

Yn nodi cynnwys adroddiad Sunderland ar drefniadau etholiadol llywodraeth leol yng Nghymru
 
'Adroddiad y Comisiwn ar Drefniadau Etholiadol Llywodraeth Leol yng Nghymru'
 
Gwelliant 2 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
 
Mewnosod ar ôl pwynt 3:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg i bob safbwynt wleidyddol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.14

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM6032 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod y rôl y mae llywodraeth leol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus i gymunedau ledled Cymru.

 

2. Yn nodi â phryder yr ansicrwydd y mae diffyg eglurder ynghylch diwygio llywodraeth leol yn ei gael o ran darparu gwasanaethau effeithiol.

 

3. Yn cydnabod bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael â difaterwch pleidleiswyr yng Nghymru, o gofio bod nifer y bobl a wnaeth fwrw pleidlais yn etholiadau llywodraeth leol Cymru yn 2012 yn isel, sef cyfartaledd o 38.9 y cant, a oedd bedwar y cant yn is na'r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau lleol yn 2008.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu amserlen dros dro ar gyfer ei chynlluniau i ddiwygio awdurdodau lleol Cymru, ac i gymryd rhan mewn proses ymgynghori gadarn.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

5

7

49

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.