Cyfarfodydd

NDM6029 - Dadl Plaid Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Dadl Plaid Cymru

NDM6029 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r heriau i'r gwasanaeth iechyd o ran gofalu am boblogaeth hŷn.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) symud ymlaen gyda mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol; a

 

b) cynyddu nifer y meddygon teulu, gan ganolbwyntio ar recriwtio i gymunedau gwledig ac ardaloedd o amddifadedd.

 

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1- Paul Davies (Preseli Sir Benfro)


Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno asesiadau aros yn y cartref gwirfoddol i hybu byw'n annibynnol a chynllunio ar gyfer anghenion y dyfodol.
 
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)


Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun newydd, cyn gynted â phosibl, ar gyfer mynediad at wasanaethau iechyd a seilwaith gwasanaeth iechyd ar gyfer cymunedau gwledig.
 
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)


Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu rôl y Comisiynydd Pobl Hŷn. 
 
Gwelliant 4 -  Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu at gau ysbytai cymuned ledled Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ac ailsefydlu ysbytai cymuned pan fydd hynny'n bosibl er mwyn dwyn gwasanaethau yn nes at gartrefi pobl.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.09

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM6029 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r heriau i'r gwasanaeth iechyd o ran gofalu am boblogaeth hŷn.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) symud ymlaen gyda mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol; a

 

b) cynyddu nifer y meddygon teulu, gan ganolbwyntio ar recriwtio i gymunedau gwledig ac ardaloedd o amddifadedd.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

4

11

48

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.