Cyfarfodydd

P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan-Y Fenni.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan–Y Fenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'w adroddiad a chytunodd i gau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Adroddiad drafft - P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan-Y Fenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft ar y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan–Y Fenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor nifer o eitemau o ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         gael copi o astudiaeth Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) a gomisiynwyd yn 2015; a

·         llunio crynodeb byr o'r dystiolaeth a dderbyniwyd ar y ddeiseb hyd yn hyn.

 


Cyfarfod: 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-690 Arwynebu ffordd A40 Rhaglan–Y Fenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, ynghyd â sylwadau a gafwyd gan y deisebydd ar ôl cyhoeddi'r papurau. Cytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am ei ymateb i sylwadau'r deisebydd ac, wrth wneud hynny, mynegodd ei bryderon cryf nad oedd yr addewidion blaenorol i arwynebu'r ffordd wedi cael eu gwireddu.

 


Cyfarfod: 03/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-690 P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan-Y Fenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried sylwadau gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ofyn a allai roi eglurhad clir i’r deisebydd a’r Pwyllgor am yr hyn sy’n ymddangos yn newid safbwynt ers y Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn 2013-18 a’r ymrwymiadau a roddwyd gan ei ragflaenydd bod cynllun i ail-wynebu’r ffordd ar y gweill. 

 


Cyfarfod: 19/09/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan–Y Fenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, gan gytuno i ysgrifennu at y deisebydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn penderfynu pa gamau i'w cymryd yn y dyfodol o ran y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan–Y Fenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.

 


Cyfarfod: 23/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan–Y Fenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i rannu sylwadau a wnaed gan y deisebwyr a Nick Ramsay AC, a gofyn pam nad yw ymrwymiadau blaenorol i arwynebu'r A40 heb eu gweithredu eto a gofyn am amserlen ar gyfer y gwelliannau hyn.

 

 


Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan - Y Fenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ynghyd â sylwadau gan Nick Ramsay AC a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i gael eglurhad ynghylch:

·         Cynlluniau i godi rhwystr sŵn ochr yn ochr â rhan o’r A40;

·         A yw’n dal yn fwriad gan Lywodraeth Cymru i roi wyneb newydd ar yr adran hon o’r A40, fel y nodwyd yn y Cynllun Gweithredu ar Sŵn 2013-2018.