Cyfarfodydd

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2016-17

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17

NDM6046 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 21 Mehefin 2016.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  1. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
  2. yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
  3. cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
  4. cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a
  5. cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau Ategol
Cyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Graffu ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2016-17

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.44

NDM6046 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 21 Mehefin 2016.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  i.           y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

 ii.           yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

iii.           cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

iv.           cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a

    v.        cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

 

Rhoddwyd y wybodaeth ychwanegol a ganlyn i’r Aelodau:

-     nodyn yn egluro’r prif newidiadau o’r cynlluniau blaenorol.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 06/07/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2016-17: Ystyried adroddiad drafft

Papur 3 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd yr Aelodau yr adroddiad drafft gyda mân welliannau.


Cyfarfod: 28/06/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 4.)

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2016-17: Ystyried y dystiolaeth


Cyfarfod: 28/06/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2.)

2. Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2016-17: Sesiwn dystiolaeth

Mark Drakeford AC – Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Gawain Evans – Cyfarwyddwr, Cyllid, Llywodraeth Cymru

Matt Denham Jones – Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolyddion Cyllid, Llywodraeth Cymru

 

Papur 1 – Cynnig ynghylch y gyllideb

Papur 2 – Nodyn esboniadol

Papur 3 – Dyraniadau Prif Grwpiau Gwariant

Briff ymchwil

Dogfennau ategol: