Cyfarfodydd
Sefydlu Pwyllgorau a’u Cylchoedd Gorchwyl - Y Bumed Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 22/02/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
Aelodaeth Pwyllgorau, Cadeiryddion a Chydbwysedd Gwleidyddol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes ei benderfyniad i
atgynhyrchu darpariaethau yn y Rheolau Sefydlog ar ddefnyddio fformiwla d'Hondt
i benderfynu ar aelodaeth pwyllgorau a gynhwyswyd yn flaenorol yn y Ddeddf. Ni
wnaeth y Pwyllgor gytuno i unrhyw newidiadau eraill.
Cyfarfod: 05/08/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
Aelodaeth Pwyllgorau
NDM7361 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Angela Burns (Ceidwadwyr Cymreig) yn
aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
NDM7362 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn
aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.
NDM7363 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig)
yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn lle Angela
Burns (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7364 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr
Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn
lle Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7365 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) yn
aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn lle Suzy Davies
(Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7366 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig)
yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle David
Melding (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7367 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig)
yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Janet Finch-Saunders
(Ceidwadwyr Cymreig).
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 14.35
NDM7361 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Angela Burns (Ceidwadwyr Cymreig) yn
aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
NDM7362 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn
aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.
NDM7363 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig)
yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn lle Angela
Burns (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7364 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr
Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn
lle Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7365 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) yn
aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn lle Suzy Davies
(Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7366 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig)
yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle David
Melding (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7367 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig)
yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Janet Finch-Saunders
(Ceidwadwyr Cymreig).
Derbyniwyd
y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 28/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Aelodaeth, cadeiryddion a chydbwysedd gwleidyddol pwyllgorau, gan gynnwys d'Hondt
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
Cofnodion:
Trafododd
y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd y dylai'r darpariaethau yn Neddf
Llywodraeth Cymru 2006 sy'n nodi fformiwla d'Hondt ar gyfer dyrannu lleoedd
pwyllgor pe na bai'r Cynulliad yn gallu cytuno ar gynnig ar aelodaeth gan
fwyafrif o ddwy ran o dair, gael ei integreiddio yn y Rheolau Sefydlog. Byddai
hyn yn caniatáu parhau i ddefnyddio fformiwla d'Hondt fel dull wrth gefn.
Trafododd
y Rheolwyr Busnes ystod o faterion yn ymwneud â chydbwysedd gwleidyddol ar
bwyllgorau a chadeiryddion pwyllgorau, yn enwedig gweithdrefnau ynghylch sut
mae unrhyw newidiadau i'r cydbwysedd rhwng grwpiau yn ystod Cynulliad yn cael
eu hadlewyrchu yng nghyfansoddiad pwyllgorau a chydbwysedd cadeiriau a
gofynnwyd i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno papur yn ystyried y materion hyn yn fwy
manwl.
Cyfarfod: 13/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
Cynnig i newid cylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
NDM7186 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i newid cylch
gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, fel bod ei gylch
gwaith fel a ganlyn:
a) archwilio
deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion
gwariant, gweinyddu a pholisi sy'n cwmpasu (ond heb fod yn gyfyngedig i):
lywodraeth leol; tai, adfywio cymunedol, cydlyniant a diogelwch; trechu tlodi; cyfle
cyfartal a hawliau dynol;
b) arfer y
swyddogaethau nad ydynt yn rhai cyllidebol a nodir yn Rheol Sefydlog 18A.2 mewn
perthynas ag atebolrwydd a llywodraethu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.14
NDM7186
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i
newid cylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, fel
bod ei gylch gwaith fel a ganlyn:
a)
archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar
faterion gwariant, gweinyddu a pholisi sy'n cwmpasu (ond heb fod yn gyfyngedig
i): lywodraeth leol; tai, adfywio cymunedol, cydlyniant a diogelwch; trechu
tlodi; cyfle cyfartal a hawliau dynol;
b)
arfer y swyddogaethau nad ydynt yn rhai cyllidebol a nodir yn Rheol Sefydlog
18A.2 mewn perthynas ag atebolrwydd a llywodraethu Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 13/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)
Cynnig i newid cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid
NDM7187 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i newid cylch
gwaith y Pwyllgor Cyllid, fel bod ei gylch gwaith fel a ganlyn:
a) cyflawni
swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10, 18.11,
18A.2 (iv) a (v), 19 ac 20 o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
b) o dan Reolau
Sefydlog 19 ac 20, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys ystyried unrhyw
adroddiad neu ddogfen a osodir gerbron y Cynulliad mewn perthynas â'r defnydd o
adnoddau, neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, gan gynnwys ymgymryd â gwaith
craffu ar gyllideb cyrff a ariennir yn uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru;
c) o dan Reolau
Sefydlog 18.10 a 18.11, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio'r
gwaith o lywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru, fel y nodir yn Neddf Archwilio
Cyhoeddus (Cymru) 2013;
d) o dan Reol Sefydlog
18A.2 (iv) a (v), i arfer swyddogaethau cyllidebol mewn perthynas ag Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
e) bod y Pwyllgor
hefyd yn ystyried unrhyw gynigion ar gyfer datganoli pwerau ariannol i Gymru
fel rhan o'i gyfrifoldebau, a'r cynnydd a wnaed wrth wneud hynny;
f) gall y Pwyllgor
hefyd graffu ar ddeddfwriaeth a gyflwynir i'r Cynulliad.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.14
NDM7187
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i
newid cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid, fel bod ei gylch gwaith fel a ganlyn:
a)
cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10,
18.11, 18A.2 (iv) a (v), 19 ac 20 o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
b)
o dan Reolau Sefydlog 19 ac 20, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys
ystyried unrhyw adroddiad neu ddogfen a osodir gerbron y Cynulliad mewn
perthynas â'r defnydd o adnoddau, neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, gan
gynnwys ymgymryd â gwaith craffu ar gyllideb cyrff a ariennir yn uniongyrchol o
Gronfa Gyfunol Cymru;
c)
o dan Reolau Sefydlog 18.10 a 18.11, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys
goruchwylio'r gwaith o lywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru, fel y nodir yn
Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013;
d)
o dan Reol Sefydlog 18A.2 (iv) a (v), i arfer swyddogaethau cyllidebol mewn
perthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
e)
bod y Pwyllgor hefyd yn ystyried unrhyw gynigion ar gyfer datganoli pwerau
ariannol i Gymru fel rhan o'i gyfrifoldebau, a'r cynnydd a wnaed wrth wneud
hynny;
f)
gall y Pwyllgor hefyd graffu ar ddeddfwriaeth a gyflwynir i'r Cynulliad.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 18/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Effaith newidiadau diweddar i aelodaeth grwpiau ar bwyllgorau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
Caroline
Jones explained that the Brexit Party group had not taken up the 5th
Committee seat offered to them as none of the Brexit Party group Members wanted
to sit on more than one Committee. Business Managers noted that some Members of
other groups sit on at least two committees.
Business
Managers agreed to table the relevant motions to remove Labour, Conservative
and Plaid Cymru Members from committees, to reduce the size of the seven
eight-Member policy and legislation committees to six Members each. They also
agreed to table motions to elect Michelle Brown to the Petitions Committee,
Neil Hamilton to Climate Change Environment and Rural Affairs Committee and
Gareth Bennett to Public Accounts Committee.
Business
Managers considered a proposal to reduce the Constitutional and Legislative Affairs
Committee’s membership down to 4 Members, and agreed to return to the matter at
next week’s meeting following consultation with groups.
Cyfarfod: 14/09/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Cynnig i addasu cylch gwaith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
NDM6083 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.3:
Yn cytuno i addasu cylch gwaith y Pwyllgor Materion Allanol
a Deddfwriaeth Ychwanegol, fel bod ei gylch gwaith fel a ganlyn:
(a) archwilio'r goblygiadau i Gymru oherwydd i'r Deyrnas
Unedig benderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd a sicrhau bod buddiannau Cymru yn
cael eu diogelu yn ystod y broses adael, mewn unrhyw berthynas newydd â'r UE ac
yn nhrefniadau gwledydd y DU ar ôl gadael ar gyfer materion perthnasol o ran
polisi, cyllid a deddfwriaeth;
(b) cydlynu gweithgarwch ar draws pwyllgorau'r Cynulliad
mewn perthynas â phwynt (a) uchod;
(c) cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u
nodir yn Rheolau Sefydlog 21.8 i 21.11, gyda newid canlyniadol i gylch gwaith y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol;
(d) ystyried unrhyw fater arall, gan gynnwys
deddfwriaeth, a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.
Dogfen Atodol
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.04
NDM6083 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:
Yn
cytuno i addasu cylch gwaith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol, fel bod ei gylch gwaith fel a ganlyn:
(a)
archwilio'r goblygiadau i Gymru oherwydd i'r Deyrnas Unedig benderfynu gadael
yr Undeb Ewropeaidd a sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu yn ystod
y broses adael, mewn unrhyw berthynas newydd â'r UE ac yn nhrefniadau gwledydd
y DU ar ôl gadael ar gyfer materion perthnasol o ran polisi, cyllid a
deddfwriaeth;
(b)
cydlynu gweithgarwch ar draws pwyllgorau'r Cynulliad mewn perthynas â phwynt
(a) uchod;
(c)
cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheolau Sefydlog
21.8 i 21.11, gyda newid canlyniadol i gylch gwaith y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol;
(d)
ystyried unrhyw fater arall, gan gynnwys deddfwriaeth, a gyfeirir ato gan y
Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 13/07/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Cynnig i newid enw’r Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn
NDM6076
Elin Jones
(Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:
Yn cytuno y caiff y
Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn, a sefydlwyd ar 28 Mehefin 2016, ei
ailenwi'n Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.47
NDM6076 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:
Yn cytuno y caiff y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth
Gefn, a sefydlwyd ar 28 Mehefin 2016, ei ailenwi'n Pwyllgor Materion Allanol a
Deddfwriaeth Ychwanegol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 13/07/2016 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
4 Gohebiaeth gan y Llywydd at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Eich penodiad yn Gadeirydd Pwyllgor
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Nodwyd y papur.
Cyfarfod: 05/07/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Cynigion i gytuno ar aelodaeth pwyllgorau
NDM6061 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Hefin
David (Llafur Cymru), John Griffiths (Llafur Cymru), Julie Morgan (Llafur
Cymru), Llyr Gruffydd (Plaid Cymru), Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig),
Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn aelodau o'r
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
NDM6062 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Jayne
Bryant (Llafur Cymru), Vikki Howells (Llafur Cymru), Huw Irranca-Davies (Llafur
Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru), Siân Gwenllian (Plaid Cymru), Simon Thomas
(Plaid Cymru) a David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o'r Pwyllgor
Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
NDM6063 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Hannah
Blythyn (Llafur Cymru), Dawn Bowden (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur
Cymru), Lee Waters (Llafur Cymru), Dai Lloyd (Plaid Cymru), Suzy Davies
(Ceidwadwyr Cymreig) a Neil Hamilton (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
NDM6064 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Hannah
Blythyn (Llafur Cymru), Hefin David (Llafur Cymru), Vikki Howells (Llafur
Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Adam Price (Plaid Cymru), Mark Isherwood
(Ceidwadwyr Cymreig) a David J Rowlands (UKIP Cymru) yn aelodau o Bwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau.
NDM6065 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Rhianon
Passmore (Llafur Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru), Joyce Watson (Llafur
Cymru), Siân Gwenllian (Plaid Cymru), Bethan Jenkins (Plaid Cymru), Janet
Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) a Gareth Bennett (UKIP Cymru) yn aelodau
o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
NDM6066 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Dawn
Bowden (Llafur Cymru), Jayne Bryant (Llafur Cymru), Julie Morgan (Llafur
Cymru), Lynne Neagle (Llafur Cymru), Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru), Angela
Burns (Ceidwadwyr Cymreig) a Caroline Jones (UKIP Cymru) yn aelodau o'r
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.
NDM6067 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Dawn
Bowden (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Eluned Morgan (Llafur
Cymru), Steffan Lewis (Plaid Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Mark
Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) a Michelle Brown (UKIP Cymru) yn aelodau o'r
Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn.
NDM6068 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Dafydd
Elis-Thomas (Plaid Cymru), David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) a Michelle Brown
(UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
NDM6069 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Mike
Hedges (Llafur Cymru), Eluned Morgan (Llafur Cymru), David Rees (Llafur Cymru),
Steffan Lewis (Plaid Cymru), Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless
(UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Cyllid.
NDM6070 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Neil
McEvoy (Plaid Cymru), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) a Gareth
Bennett (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Deisebau.
NDM6071 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Mike
Hedges (Llafur Cymru), Rhianon Passmore (Llafur Cymru), Lee Waters (Llafur
Cymru), Rhun
ap Iorwerth (Plaid Cymru), Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) a Neil Hamilton
(UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
NDM6072 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
1.
Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a David J
Rowlands (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a
2. John Griffiths (Llafur Cymru) ar ran Jayne Bryant
(Llafur Cymru), Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) ar ran Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru),
Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig) ar ran Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a
Michelle Brown (UKIP Cymru) ar ran David J Rowlands (UKIP Cymru) yn aelodau
amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
NDM6073 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
1.
Jayne Bryant (Llafur Cymru), John Griffiths (Llafur Cymru), Mike Hedges (Llafur
Cymru), Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru), Lynne Neagle (Llafur Cymru), David
Rees (Llafur Cymru), Bethan Jenkins (Plaid Cymru), Dai Lloyd (Plaid Cymru),
Simon Thomas (Plaid Cymru), Russell George (Ceidwadwyr Cymreig), Nick Ramsay
(Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor
Craffu ar Waith y Prif Weinidog, ac
2. Ann
Jones (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 14.49
Cafodd y cynigion ar y saith Pwyllgor Polisi a
Deddfwriaeth eu grwpio a gohiriwyd y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am
14.49
NDM6061 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Hefin David (Llafur Cymru),
John Griffiths (Llafur Cymru), Julie Morgan (Llafur Cymru), Llyr Gruffydd
(Plaid Cymru), Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig), Darren Millar (Ceidwadwyr
Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc
ac Addysg.
NDM6062 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Jayne Bryant (Llafur
Cymru), Vikki Howells (Llafur Cymru), Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru), Jenny
Rathbone (Llafur Cymru), Siân Gwenllian
(Plaid Cymru), Simon Thomas (Plaid Cymru) a David Melding (Ceidwadwyr Cymreig)
yn aelodau o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
NDM6063 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Hannah Blythyn (Llafur
Cymru), Dawn Bowden (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Lee Waters
(Llafur Cymru), Dai Lloyd (Plaid Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a
Neil Hamilton (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a
Chyfathrebu.
NDM6064 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Hannah Blythyn (Llafur
Cymru), Hefin David (Llafur Cymru), Vikki Howells (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur
Cymru), Adam Price (Plaid Cymru), Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) a David J
Rowlands (UKIP Cymru) yn aelodau o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.
NDM6065 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Rhianon Passmore (Llafur
Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru), Joyce Watson (Llafur Cymru), Siân
Gwenllian (Plaid Cymru), Bethan Jenkins (Plaid Cymru), Janet Finch-Saunders
(Ceidwadwyr Cymreig) a Gareth Bennett (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
NDM6066 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Dawn Bowden (Llafur Cymru),
Jayne Bryant (Llafur Cymru), Julie Morgan (Llafur Cymru), Lynne Neagle (Llafur
Cymru), Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru), Angela Burns (Ceidwadwyr Cymreig) a
Caroline Jones (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol
a Chwaraeon.
NDM6067 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Dawn Bowden (Llafur Cymru),
Jeremy Miles (Llafur Cymru), Eluned Morgan (Llafur Cymru), Steffan Lewis (Plaid
Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) a
Michelle Brown (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth
Gefn.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
5 |
52 |
Derbyniwyd
y cynnigion.
Cafodd y cynigion ar y chwe Phwyllgor Arbenigol dilynol
eu grwpio a’u derbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM6068 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Dafydd Elis-Thomas (Plaid
Cymru), David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) a Michelle Brown (UKIP Cymru) yn
aelodau o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
NDM6069 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Mike Hedges (Llafur Cymru),
Eluned Morgan (Llafur Cymru), David Rees (Llafur Cymru), Steffan Lewis (Plaid
Cymru), Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn
aelodau o'r Pwyllgor Cyllid.
NDM6070 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Neil McEvoy (Plaid Cymru),
Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) a Gareth Bennett (UKIP Cymru) yn
aelodau o'r Pwyllgor Deisebau.
NDM6071 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Mike Hedges (Llafur Cymru),
Rhianon Passmore (Llafur
Cymru), Lee Waters (Llafur Cymru), Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru), Mohammad Asghar
(Ceidwadwyr Cymreig) a Neil Hamilton (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus.
NDM6072 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
1. Dafydd Elis-Thomas
(Plaid Cymru), Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a David J Rowlands (UKIP Cymru)
yn aelodau o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a
2. John Griffiths (Llafur Cymru) ar ran Jayne Bryant (Llafur Cymru),
Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) ar ran Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), Andrew RT
Davies (Ceidwadwyr Cymreig) ar ran Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a Michelle
Brown (UKIP Cymru) ar ran David J Rowlands (UKIP Cymru) yn eilyddion ar gyfer y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
NDM6073 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
1. Jayne Bryant (Llafur
Cymru), John Griffiths (Llafur Cymru), Mike Hedges (Llafur Cymru), Huw
Irranca-Davies (Llafur Cymru), Lynne Neagle (Llafur Cymru), David Rees (Llafur
Cymru), Bethan Jenkins (Plaid Cymru), Dai Lloyd (Plaid Cymru), Simon Thomas
(Plaid Cymru), Russell George (Ceidwadwyr Cymreig), Nick Ramsay (Ceidwadwyr
Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Craffu ar Waith y
Prif Weinidog, ac
2. Ann Jones (Llafur Cymru)
yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.
Cyfarfod: 28/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 16)
Ethol cadeiryddion pwyllgorau
Cofnodion:
Dechreuodd
yr eitem am 17.29
Gwahoddodd
y Llywydd enwebiadau ar gyfer cadeiryddion y pwyllgorau yn unol â Rheol
Sefydlog 17.2F. Galwyd am enwebiadau yn y drefn a ganlyn:
Y Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg - Llafur
Enwebwyd
Julie Morgan gan Mike Hedges.
Eiliodd Hefin David yr enwebiad.
Enwebwyd
Lynne Neagle gan Lesley Griffiths .
Eiliodd Joyce Watson yr enwebiad.
Gan
fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gudd yn
unol â Rheol Sefydlog 17.21.
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd,
Amgylchedd a Materion Gwledig - UKIP
Enwebwyd
Mark Reckless gan David Rowlands .
Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod Mark Reckless wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd,
Amgylchedd a Materion Gwledig.
Y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Llafur
Enwebwyd
Huw Irranca-Davies gan Dawn Bowden.
Eiliodd David Rees yr enwebiad.
Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod Huw Irranca-Davies wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Pwyllgor Diwylliant, y
Gymraeg a Chyfathrebu – Plaid Cymru
Enwebwyd
Bethan Jenkins gan Dai Lloyd.
Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod Bethan Jenkins wedi ei hethol yn Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y
Gymraeg a Chyfathrebu.
Pwyllgor yr Economi,
Seilwaith a Sgiliau – Ceidwadwyr Cymreig
Enwebwyd
Russell George gan David Melding.
Enwebwyd Janet Finch-Saunders gan Mark Isherwood.
Gan
fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gudd yn
unol â Rheol Sefydlog 17.21.
Y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau - Llafur
Enwebwyd
John Griffiths gan Jayne Bryant.
Eiliodd Dawn Bowden yr enwebiad.
Enwebwyd
Lee Waters gan Jeremy Miles.
Eiliodd Hefin David yr enwebiad.
Enwebwyd
Jenny Rathbone gan Eluned Morgan.
Eiliodd Rhianon Passmore yr enwebiad.
Gan
fod tri enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gudd yn
unol â Rheol Sefydlog 17.21.
Y Pwyllgor Cyllid – Plaid
Cymru
Enwebwyd
Simon Thomas gan Llyr Gruffydd.
Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod Simon Thomas wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Y Pwyllgor Iechyd, Gofal
Cymdeithasol a Chwaraeon – Plaid Cymru
Enwebwyd
Dai Lloyd gan Bethan Jenkins.
Enwebwyd Rhun ap Iorwerth gan Llyr Gruffydd.
Gan
fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gudd yn
unol â Rheol Sefydlog 17.21.
Y Pwyllgor Deisebau –
Llafur
Enwebwyd
Mike Hedges gan Rhianon Passmore.
Eiliodd Julie Morgan yr enwebiad.
Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod Mike Hedges wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau.
Y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus – Ceidwadwyr Cymreig
Enwebwyd
Darren Millar gan David Melding.
Enwebwyd Mark Isherwood gan Janet Finch-Saunders.
Enwebwyd Nick Ramsay gan Mohammad Asghar.
Gan
fod tri enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gudd yn
unol â Rheol Sefydlog 17.21.
Y Pwyllgor Polisi a
Deddfwriaeth Wrth Gefn - Llafur
Enwebwyd
David Rees gan Eluned Morgan.
Eiliodd Huw Irranca-Davies yr enwebiad.
Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod David Rees wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Polisi a
Deddfwriaeth Wrth Gefn.
Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
- Llafur
Enwebwyd
Jayne Bryant gan Joyce Watson.
Eiliodd Mike Hedges yr enwebiad.
Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod Jayne Bryant wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Cyfarfod: 28/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Cynnig i newid enw’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro
NDM6044 Elin Jones
(Ceredigion)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.3 yn cytuno y caiff y Pwyllgor Dros Dro ar Faterion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol, a sefydlwyd ar 15 Mehefin 2016, ei ailenwi'n Bwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Ei gylch gwaith yw cyflawni swyddogaethau'r
pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac ystyried unrhyw fater
cyfansoddiadol, deddfwriaethol neu lywodraethol arall sydd o fewn cymhwysedd y
Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â chymhwysedd y
Cynulliad neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.12
NDM6044 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3 yn cytuno y caiff y Pwyllgor Dros Dro ar
Faterion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a sefydlwyd ar 15 Mehefin 2016, ei
ailenwi'n Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Ei gylch gwaith yw
cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21,
ac ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol, deddfwriaethol neu lywodraethol arall
sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig
â chymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd
deddfwriaeth.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 28/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Cynigion i sefydlu Pwyllgorau
NDM6034 Elin Jones
(Ceredigion)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i archwilio
deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei
gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn
gyfyngedig iddynt): addysg, iechyd a llesiant plant a phobl ifanc Cymru, gan
gynnwys eu gofal cymdeithasol.
NDM6035 Elin Jones
(Ceredigion)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion
Gwledig i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu
ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn
(ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): newid yn yr hinsawdd, ynni, rheoli cyfoeth
naturiol; cynllunio; lles anifeiliaid ac amaethyddiaeth.
NDM6036 Elin Jones
(Ceredigion)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i
archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei
gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb
fod yn gyfyngedig iddynt): diwylliant; y celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol;
y Gymraeg; cyfathrebu; darlledu a'r cyfryngau.
NDM6037 Elin Jones
(Ceredigion)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i archwilio
deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei
gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn
gyfyngedig iddynt): datblygu economaidd; trafnidiaeth; seilwaith; cyflogaeth;
sgiliau; a gwaith ymchwil a datblygu, gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth.
NDM6038 Elin Jones
(Ceredigion)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei
gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond
heb fod yn gyfyngedig iddynt): llywodraeth leol; tai; adfywio, cydlyniant a
diogelwch cymunedol; trechu tlodi; cyfle cyfartal a hawliau dynol.
NDM6039 Elin Jones
(Ceredigion)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i
archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei
gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cynnwys y meysydd a ganlyn (ond
heb fod yn gyfyngedig iddynt): iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd y
cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.
NDM6040 Elin Jones
(Ceredigion)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlol 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn i ystyried
unrhyw fater a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.
NDM6041 Elin Jones
(Ceredigion)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.1 yn sefydlu Pwyllgor Deisebau i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor
cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 23.
NDM6042 Elin Jones
(Ceredigion)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i graffu ar
waith y Prif Weinidog o safbwynt unrhyw fater sy'n berthnasol i'r gwaith o
arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru.
NDM6043 Elin Jones
(Ceredigion)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.1 yn sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyflawni swyddogaethau'r
pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 22.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.11
NDM6034 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy
graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a
ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): addysg, iechyd a llesiant plant a
phobl ifanc Cymru, gan gynnwys eu gofal cymdeithasol.
NDM6035 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i archwilio deddfwriaeth a dwyn
Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i
pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):
newid yn yr hinsawdd, ynni, rheoli cyfoeth naturiol; cynllunio; lles
anifeiliaid ac amaethyddiaeth.
NDM6036 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth
Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn
cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): diwylliant; y
celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol; y Gymraeg; cyfathrebu; darlledu a'r
cyfryngau.
NDM6037 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru
i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn
cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): datblygu economaidd;
trafnidiaeth; seilwaith; cyflogaeth; sgiliau; a gwaith ymchwil a datblygu, gan
gynnwys technoleg a gwyddoniaeth.
NDM6038 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru
i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn
cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): llywodraeth
leol; tai; adfywio, cydlyniant a diogelwch cymunedol; trechu tlodi; cyfle
cyfartal a hawliau dynol.
NDM6039 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Iechyd,
Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth
Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn
cynnwys y meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): iechyd
corfforol, iechyd meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y
system gofal cymdeithasol.
NDM6040 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlol 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Polisi a
Deddfwriaeth Wrth Gefn i ystyried unrhyw fater a gyfeirir ato gan y Pwyllgor
Busnes.
NDM6041 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1 yn sefydlu Pwyllgor Deisebau
i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog
23.
NDM6042 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Craffu
ar Waith y Prif Weinidog i graffu ar waith y Prif Weinidog o safbwynt unrhyw
fater sy'n berthnasol i'r gwaith o arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru.
NDM6043 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1 yn sefydlu Pwyllgor Safonau
Ymddygiad i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol
Sefydlog 22.
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 28/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 14)
Cynnig i ddyrannu cadeiryddion pwyllgorau i’r grwpiau plaid
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A, yn cytuno
mai'r grwpiau gwleidyddol y caiff cadeiryddion pwyllgorau eu hethol ohonynt
fydd fel a ganlyn:
(i) Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Llafur;
(ii) Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a
Materion Gwledig - UKIP;
(iii) Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol – Llafur;
(iv) Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a
Chyfathrebu - Plaid Cymru;;
(v) Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Ceidwadwyr Cymreig;
(vi) Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a
Chymunedau - Llafur;
(vii) Y Pwyllgor Cyllid - Plaid Cymru;
(viii) Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon - Plaid Cymru;
(ix) Y Pwyllgor Deisebau - Llafur;
(x) Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Ceidwadwyr Cymreig;
(xi) Y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn -
Llafur;
(xii) Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Llafur.
Cofnodion:
Dechreuodd
yr eitem am 17.28
NDM6056 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.2A, yn cytuno mai'r grwpiau gwleidyddol y caiff cadeiryddion
pwyllgorau eu hethol ohonynt fydd fel a ganlyn:
- Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Llafur;
- Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - UKIP;
- Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol – Llafur;
- Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Plaid Cymru;
- Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Ceidwadwyr Cymreig;
- Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - Llafur;
- Y Pwyllgor Cyllid - Plaid Cymru;
- Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Plaid Cymru;
- Y Pwyllgor Deisebau - Llafur;
- Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Ceidwadwyr Cymreig;
- Y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn - Llafur;
- Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Llafur.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 22/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Cynnig i ethol aelodau i bwyllgor
NDM6049 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
(i) Mike Hedges (Llafur
Cymru), Eluned Morgan (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Simon Thomas
(Plaid Cymru), Adam Price (Plaid Cymru), Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) a
Mark Reckless (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelodau o’r Pwyllgor
Cyllid; a
(ii) Simon Thomas (Plaid
Cymru) yn Gadeirydd dros dro y Pwyllgor Cyllid.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.08
NDM6049 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
(i) Mike Hedges (Llafur Cymru),
Eluned Morgan (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Simon Thomas (Plaid
Cymru), Adam Price (Plaid Cymru), Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) a Mark
Reckless (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelodau o’r Pwyllgor Cyllid;
a
(ii) Simon Thomas (Plaid
Cymru) yn Gadeirydd dros dro y Pwyllgor Cyllid.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 15/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.1 i sefydlu Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro
NDM6023 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1:
Yn sefydlu Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro i gyflawni swyddogaethau'r
pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac ystyried unrhyw fater
cyfansoddiadol, deddfwriaethol neu lywodraethol arall sydd o fewn cymhwysedd y
Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â chymhwysedd y
Cynulliad neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.04
NDM6023 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1:
Yn
sefydlu Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro i gyflawni
swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac
ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol, deddfwriaethol neu lywodraethol arall
sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig
â chymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd
deddfwriaeth.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 25/05/2016 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Pwyllgorau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 39
- Cyfyngedig 40
Cofnodion:
Trafododd y Rheolwyr
Busnes bapurau yn nodi'r penderfyniadau y byddai angen i'r Pwyllgor eu gwneud
wrth sefydlu pwyllgorau a gweithdrefnau ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau.
Cwestiynodd Simon
Thomas a fyddai hawl gan Kirsty Williams AC gael sedd ar bwyllgor tra ei bod
hefyd yn aelod o'r llywodraeth. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Pwyllgorau
Polisi a Deddfwriaeth er nad yw aelodau o'r Llywodraeth fel arfer wedi eistedd
ar bwyllgorau'r Cynulliad, nid yw'r Rheolau Sefydlog yn eu hatal rhag gwneud
hynny. Byddai hawl yr Aelod Democratiaid Rhyddfrydol i sedd ar bwyllgor felly
yn parhau, er y byddai'n fater iddi hi ynghylch a oedd hi eisiau ei derbyn ai
peidio.
Cafwyd consensws
cyffredinol y dylid lleihau meintiau pwyllgorau o gymharu â'r Pedwerydd
Cynulliad. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod opsiynau gyda’u grwpiau.
Trafododd y
pwyllgor hefyd argymhelliad y Pwyllgor Busnes blaenorol y dylai strwythur
craidd pwyllgorau polisi a deddfwriaeth ar y cyd gael ei chynnal yn y Pumed
Cynulliad. Roedd Jane Hutt a Mark Reckless o blaid cynnal y strwythur hwn, gan
ddweud ei bod yn caniatáu i Aelodau a oedd wedi datblygu arbenigedd mewn
meysydd polisi i graffu hefyd ar ddeddfwriaeth ar y pynciau hynny. Fodd bynnag,
awgrymodd Simon Thomas a Paul Davies y byddai cael o leiaf rhai pwyllgorau
deddfwriaeth ar wahân yn lleihau pwysau gwaith rai pwyllgorau, a oedd yn
broblem yn ystod y Cynulliad diwethaf.
Cododd Paul Davies
y mater o gylchoedd gwaith pwyllgorau, sef y dylent adlewyrchu portffolios
Ysgrifenyddion Cabinet, rhywbeth nad oedd wedi digwydd yn y Pedwerydd
Cynulliad. Awgrymodd Simon Thomas hefyd y dylid cael pwyllgor ar wahân i graffu
ar ddeddfwriaeth yr UE, a chyfeiriodd at y ffaith bod cylch gorchwyl y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn y pedwerydd Cynulliad yn benodol
o eang gan arwain at lwyth gwaith anghymesur.
Nododd y Rheolwyr
Busnes argymhelliad yn y papur ar bwyllgorau o ran pe byddai angen mwy o amser
i ddod i farn derfynol ar y materion hyn, dylai trefniadau penodol gael eu rhoi
yn eu lle ar gyfer pwyllgorau penodol i ystyried materion brys megis
is-ddeddfwriaeth, cyllid, Mesur Cymru a chanlyniad refferendwm yr UE.
Gofynnodd y
Pwyllgor am bapur pellach manwl yn amlinellu'r opsiynau ar gyfer strwythurau
pwyllgor posibl gan gynnwys modelau a awgrymwyd ar gyfer cylch gwaith
pwyllgorau a gweithdrefnau ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau, yn seiliedig
ar drafodaethau'r Pwyllgor, i'w ystyried yn y cyfarfod nesaf ar ôl 8 Mehefin.
Yn y cyfamser, gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes drafod y dewisiadau
gyda'u Grwpiau.