Cyfarfodydd
Enwebu Prif Weinidog
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 18/05/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 1)
Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 13.30.
Yn dilyn y cyfarfod ar 11 Mai 2016, parhaodd y Llywydd gyda phroses
enwebu'r Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8.
Gofynnodd y Llywydd am gadarnhad bod enwau Carwyn Jones a Leanne Wood yn
parhau.
Tynnodd Rhun ap Iorwerth enwebiad Leanne Wood yn ôl.
Pwynt o Drefn
Cododd Mark Reckless bwynt o drefn ynghylch tynnu enwebiad Leanne Wood fel
Prif Weinidog yn ôl gan ddyfynnu Rheol Sefydlog 8.3 bod yn rhaid cynnal
pleidlais arall drwy alw'r gofrestr pe byddai'r pleidleisiau'n gyfartal.
Dyfarnodd y Llywydd y byddai'n afresymol gorfodi unrhyw un nad oedd bellach yn
dymuno cael ei enwebu fel Prif Weinidog i fod yn ymgeisydd ac nad oedd
darpariaeth yn y Rheolau Sefydlog i ail-agor yr enwebiadau wedi iddynt gael eu
cau.
Yn unol ag Adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru, dywedodd y Llywydd y
byddai'n argymell i'w Mawrhydi y dylid penodi Carwyn Jones yn Brif
Weinidog.
Gwahoddodd y Llywydd Carwyn Jones i annerch y Cynulliad, a dilynwyd ef gan
arweinwyr y gwrthbleidiau.
Cyfarfod: 11/05/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem
am 15.01.
Penderfynodd y
Cynulliad gymryd enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog, yn unol â Rheol
Sefydlog 12.11.
Gwahoddodd y
Llywydd enwebiadau ar gyfer penodi Prif Weinidog yn unol â Rheol Sefydlog 8.2.
Cafodd Carwyn Jones
ei enwebu gan Jane Hutt.
Cafodd Leanne Wood
ei henwebu gan Rhun ap Iorwerth.
Gan fod dau
enwebiad, cynhaliwyd pleidlais drwy alw cofrestr yr Aelodau. Gwahoddodd y
Llywydd bob Aelod a oedd yn bresennol i bleidleisio dros ymgeisydd. Cafodd Aelodau eu galw yn nhrefn yr wyddor.
Yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, ni chaniatawyd i’r Llywydd na’r Dirprwy Lywydd
bleidleisio.
Canlyniad y
bleidlais oedd:
Carwyn
Jones |
Leanne
Wood |
Ymatal |
Cyfanswm |
29 |
29 |
0 |
58 |
[gweler
y crynodeb o’r pleidleisiau i gael y canlyniad llawn]
Gan fod y
pleidleisiau rhwng y ddau ymgeisydd yn gyfartal, ataliodd y Llywydd y cyfarfod
am 15.09.
Ailymgynullodd y
cyfarfod am 15.47. Cyhoeddodd y Llywydd, gan ei bod yn amlwg na fyddai cynnal
pleidlais arall drwy alw’r gofrestr yn arwain at ganlyniad pendant, ei bod yn
gohirio’r cyfarfod ac yn dwyn y trafodion i ben.
Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.8, bydd y Llywydd yn sicrhau y caiff yr Aelodau eu hysbysu o
ddyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.