Cyfarfodydd
Other Business - Business Committee
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 25/05/2016 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Unrhyw fater arall
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
Comisiwn y
Cynulliad
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i benodi Comisiynwyr y Cynulliad, yn unol â
Rheol Sefydlog 7.1, ar gyfer y Cyfarfod Llawn ar 8 Mehefin. Nododd y Pwyllgor,
er mwyn gwneud hynny, y byddai angen atal y Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu
i'r cynnig ddigwydd ar 8 Mehefin gan y byddai hyn y tu hwnt i'r gofyniad i
benodi Comisiynwyr heb fod yn fwy na 10 diwrnod ar ôl penodi aelodau'r Pwyllgor
Busnes.
Gofynnodd y
Pwyllgor am gael cofnodi bod yr Aelodau o'r farn ei bod yn anffodus bod yn
rhaid torri'r Rheolau Sefydlog yn y ffordd hon, a chytunodd i adolygu'r
gofyniad o 10 diwrnod yn y Rheolau Sefydlog, gan nad oedd yn glir beth oedd ei
ddiben.
Egwyddorion ac
arfer ar gyfer cyflwyno a gosod busnes y Cynulliad
Nododd y Rheolwyr
Busnes bapur ar gyfer Egwyddorion ac arfer ar gyfer cyflwyno a gosod busnes y
Cynulliad