Cyfarfodydd

Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/03/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Adroddiad Gwaddol drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad gwaddol ar gyfer y Pwyllgor sy’n ei olynu yn y Chweched Senedd, a chytunodd arno.

 

3.2 Nododd y Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei osod gerbron y Senedd a'i gyhoeddi erbyn diwedd y tymor.


Cyfarfod: 15/03/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Sylwadau i gloi

Cofnodion:

5.1 Nododd y Cadeirydd mai dyma gyfarfod olaf y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y bumed Senedd. Diolchodd i’r Aelodau presennol a’r Aelodau blaenorol am eu gwaith ar y pwyllgor ac am ymgysylltu â’i waith.

5.2 Aelodau blaenorol y pwyllgor oedd:

·         Mike Hedges;

·         Neil McEvoy;

·         Lee Waters;

·         Jack Sargeant;

·         Neil Hamilton;

·         Adam Price; ac

·         Angela Burns.

5.3 Hefyd, talodd y Cadeirydd deyrnged i Mohammad Asghar, a fu farw ym mis Mehefin 2020. Ychwanegodd fod y pwyllgor hwn a’r pwyllgorau blaenorol wedi bod yn ffodus iawn o gael Oscar yn aelod ohonynt.

5.4 Talodd aelodau’r pwyllgor ac Archwilydd Cyffredinol Cymru deyrnged i Nick Ramsay AS am y ffordd gydsyniol, cynhwysol ac arloesol y llwyddodd i gadeirio’r pwyllgor yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Gwnaethant oll ddymuno’n dda iddo at y dyfodol

5.5 Hefyd, talodd y Cadeirydd deyrnged i’r gefnogaeth a gafodd gan yr Archwilydd Cyffredinol presennol a’i ragflaenydd, yn ogystal â thîm yr Archwilydd Cyffredinol, y Clercod a’r holl staff cymorth yng Nghomisiwn y Senedd.

5.6 Dymunodd y Cadeirydd yn dda i bawb at y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Paratoadau ar gyfer diwedd y 5ed Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor nifer o faterion yn ymwneud â chwblhau ei waith cyn diwedd y 5ed Senedd a chytunodd i gynghori’r Llywydd y dylid cau'r broses ddeisebau yn ystod y diddymiad, neu ar unrhyw adeg pan nad yw busnes rheolaidd y Senedd yn cael ei gynnal.

 


Cyfarfod: 17/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Arferion Gwaith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddadansoddiad pellach o’r cynnydd diweddar o ran nifer y bobl sy’n defnyddio proses ddeisebau’r Senedd. I ymateb i’r cynnydd sylweddol yn nifer y deisebau sy'n cyrraedd y trothwy 5,000 o lofnodion ar gyfer ystyried cynnal dadl, sy'n golygu bod y galw am ddadleuon posibl ar ddeisebau bellach yn llawer uwch na gallu'r Senedd i'w hamserlennu, cytunodd y Pwyllgor i newid y trothwy i 10,000 o lofnodion, a ddaw i rym ar 1 Rhagfyr 2020 ar gyfer pob deiseb sy'n casglu llofnodion ar ôl y dyddiad hwnnw. Cytunodd y Pwyllgor i adolygu'r trothwy eto ar ddiwedd y Senedd hon gyda'r bwriad o wneud argymhellion priodol ar gyfer y chweched Senedd.

 

 


Cyfarfod: 15/09/2020 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Gweithdrefnau ac arferion gwaith y Pwyllgor

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor ei weithdrefnau a’i arferion gwaith ar gyfer trin adroddiadau gan y Comisiynydd Safonau.


Cyfarfod: 03/07/2020 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Trefniadau cyfarfodydd yn y dyfodol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gynnal nifer cynyddol o gyfarfodydd yn nhymor yr hydref er mwyn hwyluso’r broses o wneud gwaith craffu parhaus ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig Covid-19. Cytunodd y Pwyllgor i drefnu dau gyfarfod gyda'r Prif Weinidog ar gyfer y Pwyllgor llawn, yn ogystal â dau gyfarfod gyda'r Cwnsler Cyffredinol ar gyfer is-grŵp o aelodaur Pwyllgor. Bydd cyfarfodydd yr is-grŵp yn ymdrin â chyfrifoldebaur Cwnsler Cyffredinol o ran goruchwylior gwaith adfer mewn perthynas â Covid-19.

 

 


Cyfarfod: 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Trafod deisebau â 5,000 o lofnodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod deisebau amrywiol â dros 5,000 o lofnodion, sy’n ymwneud â COVID-19, a chytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn bod amser ar gael cyn toriad yr haf i gynnal dadl ar ddeiseb P-05-967 Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar ryddhad ardrethi annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng Nghymru. At hynny, mynegodd y Pwyllgor awydd i drefnu dadleuon nad ydynt yn gysylltiedig â COVID-19, cyn gynted â phosibl.

 

 


Cyfarfod: 08/06/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Gohebiaeth: Diwyigio Etholiadol y Senedd - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (15 Mai 2020)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/05/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

1 Trafod y dull gweithredu o ran arferion gwaith y Pwyllgor y tu allan i gyfarfodydd y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1    Cytunodd yr aelodau i newid arferion gwaith y Pwyllgor, er mwyn hwyluso trefniadau gweithio o bell.

 


Cyfarfod: 10/02/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Trafod newid cylch gwaith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd yr Aelodau newid i gylch gwaith y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Gweithdrefnau ac arferion gwaith y Pwyllgor

Cofnodion:

3.1 Gofynnodd y Cadeirydd i’r swyddogion adael y cyfarfod. Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ddiweddar a chytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn ymateb iddi.

 

 


Cyfarfod: 30/09/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: Hyfforddiant y Pwyllgor

Cofnodion:

7. Cafodd aelodau’r Pwyllgor sesiwn hyfforddi ar rôl Swyddogion Cyfrifo.

 


Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cymhwystra ar gyfer llofnodi deisebau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor bapur am gymhwystra ar gyfer llofnodi deisebau i'r Cynulliad. Mewn ymateb i rai pryderon a godwyd gyda'r Pwyllgor, trafododd yr Aelodau p’un a ddylai pobl sy'n byw y tu allan i Gymru barhau i allu llofnodi deisebau.

 

Penderfynodd y Pwyllgor beidio gosod unrhyw gyfyngiadau ar allu pobl i lofnodi deisebau, yng nghyd-destun newidiadau diweddar eraill a wnaed i'r rheolau sy'n ymwneud â chyflwyno deisebau a chasglu llofnodion.

 

Mewn perthynas â deisebau gyda dros 5000 o lofnodion, cytunodd yr Aelodau i ystyried nifer y llofnodion a gasglwyd yng Nghymru wrth benderfynu p’un a ddylid gofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn yn y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 29/04/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Papur i'w nodi 2: Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Cadeirydd ynghylch presenoldeb Gweinidogion yn y Pwyllgor - 12 Ebrill 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.1 Nodwyd y papur.

 


Cyfarfod: 29/04/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Ystyried ymateb i'r ohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Cadeirydd ynghylch presenoldeb Gweinidogion yn y Pwyllgor

Cofnodion:

6.1 Cytunodd yr Aelodau i ymateb i'r Prif Weinidog i gadarnhau eu hymrwymiad i gydweithredu er mwyn sicrhau bod Gweinidogion yn gallu dod i'r Pwyllgor pan fydd angen.

 


Cyfarfod: 29/04/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor

PAC(5)-11-19 Papur 3 – Papur ar rôl y Pwllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau cylch gwaith y Pwyllgor a'i nodi.

 


Cyfarfod: 01/04/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor

Cofnodion:

6.1 Tynnodd Adam Price AC sylw’r Aelodau at y penderfyniad diweddar a wnaed gan yr Uchel Lys mewn perthynas â diswyddo Carl Sargeant. Mynegodd ei bryder fod rhai cwestiynau’n parhau ym meddyliau pobl o ran doethineb y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Oherwydd hyn, cynigiodd y dylai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ofyn am gopi o adroddiad, a gafodd ei ddatgelu i’r wasg, a gynhaliwyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol, ond gyda’r golygiadau priodol. Cefnogwyd ef gan Neil Hamilton AC a Mohammad Asghar AC.

6.2 Nid oedd Jenny Rathbone AC yn argyhoeddedig mai'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus oedd y Pwyllgor priodol i ofyn am y ddogfen hon, a gofynnodd i ohirio'r drafodaeth er mwyn caniatáu iddi ystyried penderfyniad yr Uchel Lys a chael cyngor priodol. Cafodd ei chefnogi gan Vikki Howells AC a Rhianon Passmore AC

6.3 Cefnogodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor, awgrym Jenny Rathbone, a chytunwyd y byddai'r eitem yn cael ei hychwanegu at yr agenda ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 29 Ebrill.

 


Cyfarfod: 01/04/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (15 Mawrth 2019)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Deisebau sydd â dros 5,000 o lofnodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur a thrafododd y Pwyllgor gynnig i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar y broses ddeisebu yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 06/11/2018 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 2.)

Trefn Busnes


Cyfarfod: 16/10/2018 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Gweithdrefnau ac arferion gwaith y Pwyllgor

Cofnodion:

2.1 Nododd yr Aelodau fod y Comisiynydd Safonau wedi nodi ei fod yn cynnig y defnyddir darpariaeth 4 ym Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 i benodi Comisiynydd Dros Dro i drin cwyn benodol.

2.2 Trafododd yr Aelodau'r mater a'i nodi.

 


Cyfarfod: 17/09/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4.)

Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: paratoi adroddiadau pwyllgor


Cyfarfod: 17/09/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2.)

Gweithdrefnau ac arferion gwaith y Pwyllgor: safbwynt o San Steffan - Richard Bacon AS


Cyfarfod: 17/09/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5.)

Sylwadau i gloi


Cyfarfod: 17/05/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Gweithdrefnau ac arferion gwaith y Pwyllgor

Kate Faragher, Prif Swyddog Gweithredol, BeSpokeSkills

Cofnodion:

4.1 Trafododd Kate Faragher weithdrefnau ac arferion gwaith y Pwyllgor â'r Aelodau


Cyfarfod: 01/03/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 4.)

Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor

Kate Faragher, Prif Swyddog Gweithredol, BeSpokeSkills


Cyfarfod: 26/02/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor a Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/12/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor a Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/11/2017 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Cynnig i gytuno ar newidiadau i aelodaeth yr is-bwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.17

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1        Derbyniwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 06/11/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: Penodi Prif Weithredwr Awdurdod Cyllid Cymru (18 Hydref 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 23/10/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: briffio'r Aelodau - trafodaeth ar ddull gweithredu

PAC(5)-27-17 Papur 3 - Briffio ar gyfer Papurau’r Pwyllgor

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau bapur ar y deunydd briffio maent yn ei gael i'w cynorthwyo gyda'u gwaith paratoi ar gyfer sesiynau casglu tystiolaeth.

 

 


Cyfarfod: 13/07/2017 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Gweithdrefnau ac Arferion Gwaith y Pwyllgor

Kate Faragher, CEO, BeSpokeSkills

Dogfennau ategol:

  • EIS(5)-18-17 (p2) Adolygiad o waith Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau 2016-17 (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

6.1 Cynhaliodd Kate Faragher, Prif Swyddog Gweithredol, BeSpokeSkills, gwrs hyfforddi ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor.


Cyfarfod: 10/07/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Hysbysiad o Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol yng Nghyllid a Thollau EM (13 Mehefin 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 29/06/2017 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid:

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.


Cyfarfod: 01/03/2017 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Gweithdrefnau ac Arferion Gwaith y Pwyllgor

Kate Faragher, CEO, BeSpokeSkills

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Rhoddodd Kate Faragher o BeSpoke Skills sesiwn hyfforddi i Aelodau'r Pwyllgor


Cyfarfod: 09/01/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Darpar Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru: Trafod y llythyr drafft

PAC(5)-01-17 Papur 8

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd yr Aelodau ar y llythyr drafft a fydd yn cael ei anfon cyn i'r Ysgrifennydd Parhaol newydd ddechrau yn ei swydd ar 6 Chwefror 2017.

 


Cyfarfod: 09/01/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Gweithdrefnau ac Arferion Gwaith y Pwyllgor

PAC(5)-01-17 Papur 1

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau'r papur a thrafododd yr awgrymiadau sydd ynddo.

3.2 Bydd y Clercod yn paratoi papur pellach ac yn cynnwys enghreifftiau o fodelau gwaith gwahanol er mwyn galluogi'r Aelodau i gael trafodaeth bellach.

 


Cyfarfod: 23/11/2016 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Trafodaeth ar dechnegau ymdrin â'r cyfryngau

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor dechnegau ymdrin â'r cyfryngau.


Cyfarfod: 21/11/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Adolygiad o ffyrdd Pwyllgorau'r Cynulliad o weithio

Kate Faragher - Bespokeskills

 

Cofnodion:

6.1 Croesawodd y Cadeirydd Kate Faragher o Bespokeskills i'r cyfarfod.

6.2 Rhoddodd Kate Faragher adborth i'r Aelodau ar eu rôl fel Aelodau o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac ar ffordd y Pwyllgor o weithio yn dilyn ei sesiwn flaenorol a gynhaliwyd fel rhan o raglen gynefino'r Pwyllgor ym Medi 2016.

6.3 Gofynnodd yr Aelodau am sesiwn arall ar eu perfformiad yn haf 2017.

 


Cyfarfod: 15/11/2016 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Ethol Cadeirydd dros dro yn unol ag Adran 10.2 o'r weithdrefn gwyno

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor y dylid ethol Paul Davies AC i weithredu fel Cadeirydd dros dro yn unol â pharagraff 10.2 o'r drefn gwyno.

 


Cyfarfod: 21/09/2016 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr oddi wrth y Llywydd ynghylch Datganiadau Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.1 Nododd y Pwyllgor y papur.


Cyfarfod: 21/09/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Cyflwyno Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Steven O'Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Dynol, Swyddfa Archwilio Cymru

Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Swyddfa Archwilio Cymru

Cofnodion:

9.1 Rhoddodd Swyddfa Archwilio Cymru gyflwyniad i'r Aelodau ar Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.


Cyfarfod: 15/09/2016 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Llywydd at Gadeiryddion Pwyllgor ynghylch datganiadau Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor lythyr y Llywydd ynghylch datganiadau Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn.

 


Cyfarfod: 15/09/2016 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Llywydd ynghylch datganiadau Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd ynghylch datganiadau Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn.

 


Cyfarfod: 14/09/2016 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Llythyr oddi wrth y Llywydd ynghylch Datganiadau Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/09/2016 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Llywydd at y Cadeirydd ynghylch Datganiadau Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn

Papur i'w nodi 7

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/09/2016 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan y Llywydd: Datganiadau Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn

CLA(5)-04-16 - Papur 12 - Gohebiaeth gan y Llywydd, 21 Gorffennaf 2016

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu at y Llywydd yn cytuno y dylid integreiddio gwaith y Cyfarfod Llawn a'r Pwyllgor ymhellach.

4.5b Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am amser i baratoi datganiad am ei waith ar Fil Cymru cyn ei ymweliad â Phwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi.


Cyfarfod: 07/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2.)

Gweithdrefnau ac Arferion Gwaith y Pwyllgor Deisebau

PET(5)01-16 - Papur 1 (Papur Briffio - Gweithdrefnau ac Arferion Gwaith y Pwyllgor Deisebau)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 151

Cyfarfod: 06/07/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Cyfrifoldebau a busnes cynnar y Pwyllgor

Papur 4 – Cyfrifoldebau a busnes cynnar y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor eitemau o’i fusnes cynnar, a trafododd gynigion ar gyfer ymgynghoriadau yn y dyfodol.


Cyfarfod: 06/07/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Sesiwn briffio ar ddatganoli trethi

Georgina Haarhoff – Pennaeth Polisi Trethi a Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru

Ed Sherriff – Pennaeth Strategaeth Gyllidol, Llywodraeth Cymru

Richard Clarke – Rheolwr Polisi Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

5.1 Cafodd Aelodau eu briffio ar ddatganoli trethi yng Nghymru gan: Georgina Haarhoff – Pennaeth Polisi Trethi a Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru, Ed Sherriff – Pennaeth Strategaeth Gyllidol, Llywodraeth Cymru, a Richard Clarke – Rheolwr Polisi Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru.


Cyfarfod: 28/06/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 5.)

5. Cyfrifoldebau'r Pwyllgor a busnes cynnar

Papur 4 – Cyfrifoldebau’r Pwyllgor a busnes cynnar

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 25/05/2016 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Y Pwyllgor Busnes

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 162

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gwrdd am 8.30am ar foreau Mawrth yn ystod yr wythnosau mae'r Cynulliad yn eistedd ar gyfer gweddill y tymor, ond i edrych ar gwrdd ar amser arall yn y tymor newydd er mwyn rhoi ystyriaeth i gyfrifoldebau teuluol Aelodau. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol fel rhan o'r drafodaeth ar amserlen gyffredinol y pwyllgor.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gwrdd yn breifat ar gyfer unrhyw gyfarfodydd yn y dyfodol lle bydd materion yn ymwneud â busnes mewnol y pwyllgor neu'r Cynulliad yn cael eu trafod, a nodwyd bod y penderfyniad y cytunwyd arno ar ddechrau'r cyfarfod yn darparu ar gyfer gwneud hynny. Fodd bynnag, cafwyd consensws ar draws y Pwyllgor y dylai'r pwyllgor anelu at gwrdd yn gyhoeddus yn fwy aml yn y dyfodol.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai cofnodion cyfarfodydd preifat yn cael eu cyhoeddi yn Saesneg ac yn Gymraeg o fewn 1 wythnos iddynt gael eu cytuno gan y Pwyllgor.