Cyfarfodydd
Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Prif Swyddog Nyrsio
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 09/03/2023 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 09/03/2023 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Trawsgrifiad ar gyfer 09/03/2023 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
3 Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch materion a gododd o sesiwn graffu'r Pwyllgor gyda Phrif Swyddog Nyrsio Cymru ar 26 Ionawr 2023
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.4 Nododd y
Pwyllgor y llythyr.
Cyfarfod: 02/03/2023 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 02/03/2023 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Trawsgrifiad ar gyfer 02/03/2023 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
3 Llythyr gan Brif Swyddog Nyrsio Cymru yn dilyn y sesiwn graffu gyffredinol ar 26 Ionawr 2023
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Cyfarfod: 06/03/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
6 Llythyr gan y Prif Swyddog Nyrsio mewn perthynas â chamau gweithredu sy’n deillio o gyfarfod y Pwyllgor ar 30 Ionawr 2014
Dogfennau ategol:
- HSC(4)-07-14 (ptn1) (Saesneg yn unig), Eitem 6 PDF 266 KB Gweld fel HTML (6/1) 51 KB
- HSC(4)-07-14 (ptn1) Atodiad (Saesneg yn unig), Eitem 6 PDF 512 KB Gweld fel HTML (6/2) 124 KB
Cofnodion:
6a.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Swyddog Nyrsio.
Cyfarfod: 30/01/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Prif Swyddog Nyrsio
Yr Athro Jean White, Prif
Swyddog Nyrsio Cymru
Polly Ferguson, Swyddog Nyrsio
Iechyd Atgenhedlol Menywod
Helen Whyley, Swyddog Nyrsio
Gweithlu, Addysg, Rheoleiddio a Diogelwch Cleifion
Dogfennau ategol:
- RS140059 Health and Social Care Committee CNO
- HSC(4)-03-14 Papur 5 Craffu gyffredinol gyda'r Prif Swyddog Nyrsio, Eitem 2 PDF 320 KB Gweld fel HTML (2/2) 77 KB
Cofnodion:
2.1. Bu'r Prif Swyddog Nyrsio
a'i swyddogion yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.
2.2. Yn ystod y sesiwn,
cytunodd y Prif Swyddog Nyrsio i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:
- Nodyn yn manylu sut mae adroddiadau a gynhyrchwyd gan Arolygiaeth
Gofal Iechyd Cymru wedi cael effaith uniongyrchol ar ei gwaith;
- Rhagor o fanylion am rôl gwasanaethau gweithlu, addysg a datblygu
Llywodraeth Cymru yn y broses cynllunio gweithlu, gan gynnwys gwybodaeth
ynghylch y dangosyddion a ddefnyddir wrth bennu cynlluniau gweithlu;
- Nodyn ynghylch nifer y nyrsys ardal a chymunedol yng Nghymru;
- Rhagor o fanylion ynghylch y cod hylendid sy'n cael ei ddatblygu gan
Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran y Prif Swyddog Nyrsio, a chadarnhad ynghylch
pryd fydd y gwaith wedi'i gwblhau.
2.3. Cytunodd y Prif Swyddog
Nyrsio i rannu'r copi diweddaraf o'r adroddiad rheolaidd y mae'n ei chael oddi
wrth adran Cymru o'r fenter “Cryfhau'r Ymrwymiad”, sy'n rhedeg ledled y DU,
sy'n ymwneud â nyrsio anableddau dysgu.