Cyfarfodydd
Cynigion ar gyfer deddfwriaeth ar arddangos sgoriau hylendid bwyd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 26/04/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) Drafft - gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
HSC(4)-12-12 papur 4
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Cyfarfod: 08/03/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Y Bil Drafft ynghylch Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) - gwybodaeth ychwanegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru
HSC(4)-08-12 papur 11
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
4.3 Nododd y Pwyllgor y papur ar y Bil Drafft ynghylch Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru).
4.4 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymweliadau allanol anffurfiol yn ystod y cyfnodau o amser a neilltuwyd ar gyfer ei gyfarfodydd ar 28 Mawrth ac ar fore 26 Ebrill, fel rhan o’r ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn.
4.5 Cytunodd y Pwyllgor i ymestyn hyd y cyfarfod ar brynhawn 26 Ebrill er mwyn gallu cynnwys sesiynau tystiolaeth lafar.
Cyfarfod: 02/02/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Y Bil Drafft ynghylch Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) - Briff technegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru
HSC(4)-04-12 papur
1
David Worthington, yr
Uwch Swyddog Cyfrifol am y Bil
Chris Brereton, Dirprwy
Brif Gynghorydd Iechyd yr Amgylchedd
Rob Wilkins, yr
Asiantaeth Safonau Bwyd
Chris Humphreys, Cyfreithiwr
Egwyl 10.15 –
10.25
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Bu swyddogion yn ymateb i gwestiynau gan
Aelodau’r Pwyllgor ar y Bil Drafft ynghylch Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru).
2.2 Cytunodd y
swyddogion i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn, yn unol â chais y
Pwyllgor:
·
ffigurau
ynghylch nifer yr ymweliadau â thudalennau gwefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd
sy’n ymwneud â sgorio hylendid bwyd;
·
dadansoddiad
o nifer yr ysbytai yng Nghymru sydd ymhob categori hylendid bwyd;
·
nifer
yr ysbytai yng Nghymru sy’n arddangos eu sgôr hylendid bwyd ar hyn o bryd; a
·
ffigurau
cywir ynghylch nifer y busnesau bwyd yng Nghymru sydd wedi cael eu sgorio ers
mis Hydref 2010, fesul awdurdod lleol, a dadansoddiad o nifer y busnesau sydd
ymhob categori sgorio.
2.3 Cytunodd y
Pwyllgor i gynnal sesiwn debyg unwaith y bydd yr ymgynghoriad ar y Bil Drafft
wedi cau.
Cyfarfod: 11/01/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Y Bil Drafft ynghylch Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) - trafod y dull o ystyried y Bil drafft
HSC(4)-01-12 papur 2
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Nododd y Pwyllgor gyhoeddi’r Bil Drafft ynghylch Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru).
3.2 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dull o ystyried y Bil drafft a chytunodd y dylai ofyn am wasanaeth briffio gan swyddogion Llywodraeth Cymru. Cytunodd y Pwyllgor mai pwrpas y hyn fyddai er mwyn bod yn ymwybodol o ddatblygiadau gyda’r Bil drafft yn hytrach na mynegi barn am ei gynnwys.