Cyfarfodydd

Penodi’r Comisiynydd Safonau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

Cynnig i benodi Comisiynydd Safonau

NDM6010 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

O dan adran 1(2) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, yn penodi Syr Roderick Evans yn Gomisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y Mesur hwnnw, am gyfnod o chwe blynedd gan ddechrau ar 1 Rhagfyr 2016.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.57

NDM6010 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

O dan adran 1(2) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, yn penodi Syr Roderick Evans yn Gomisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y Mesur hwnnw, am gyfnod o chwe blynedd gan ddechrau ar 1 Rhagfyr 2016.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 08/03/2016 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Gwrandawiad Cadarnhau - Penodi Comisiynydd Safonau

Papur briffio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Rhoddodd Syr Roderick Evans CF gyflwyniad i'r Aelodau ac atebodd eu cwestiynau dilynol.