Cyfarfodydd
CLA677 - Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 08/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016
NDM5985 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew)
(Cymru) 2016 yn cael eu llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2016.
Dogfennau Ategol
Rheoliadau
Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016
Esboniadol
Memorandwm (Saesneg yn unig)
Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Dim pwyntiau
adrodd
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.50
NDM5985 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau
Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016 yn cael eu
llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9
Chwefror 2016.
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 07/03/2016 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2.8)
CLA677 - Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016
Y weithdrefn gadarnhaol; Fe'u gwnaed ar: 14 Mawrth 2015; Fe'u gosodwyd ar:
dyddiad heb ei nodi; Yn dod i rym ar: 15 Mawrth 2016