Cyfarfodydd
CLA669 - Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2016
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 01/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2016
NDM5979
Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo
bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini
Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2016 yn
cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2
Chwefror 2016.
Dogfennau
Ategol
Rheoliadau
Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau
Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2016
Memorandwm
Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Dim pwyntiau
adrodd
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 15.07
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5979
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd
Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru)
(Diwygio) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2016.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
12 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 22/02/2016 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.14)
CLA669 - Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2016
Y weithdrefn gadarnhaol; Fe'i gwnaed ar: dyddiad heb ei nodi; Fe’i gosodwyd
ar: dyddiad heb ei nodi; Yn dod i rym ar: dyddiad heb ei nodi