Cyfarfodydd
Prentisiaethau
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 25/01/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 8)
Gwerthusiad o gynllun prentisiaeth y Cynulliad ac argymhellion ar gyfer y dyfodol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Croesawyd Rebecca Hardwicke, Rhodri Wyn Jones a Carolyn
Owen i'r cyfarfod i drafod adolygiad o effeithiolrwydd y cynllun Prentisiaeth
ac i roi argymhellion ar gyfer y dyfodol. Gofynnwyd i'r Bwrdd ystyried rhedeg
trydydd cynllun ac a oedd cefnogaeth i gynllun ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a
sut y gellid rhedeg hwn.
Cytunodd y Bwrdd i lansio cynllun y Comisiwn i bedwar o
brentisiaid newydd ddechrau ym mis Medi, wedi’i anelu at bobl ifanc 16-24 oed
heb radd. Cytunwyd hefyd y dylid cael dull cylchdroi hyblyg ar gyfer
lleoliadau, er mwyn rhoi amrywiaeth o brofiadau i brentisiaid yng ngwahanol
adrannau’r Cynulliad. Byddai’r gronfa cymorth tîm yn cael ei defnyddio i
alluogi prentisiaid i wneud cais am swyddi parhaol ar ddiwedd eu cyfnod ac i
gynorthwyo gyda’r gwaith o gynllunio capasiti.
Roedd cefnogaeth amlwg gan yr
Aelodau i gynllun prentisiaeth a thrafododd y Bwrdd y materion cyflogaeth a’r
goblygiadau o ran adnoddau o wneud hynny. Cytunodd y Bwrdd Rheoli bod angen
gwneud rhagor o waith i ymchwilio i'r posibilrwydd o ddatblygu cynllun lle
byddai prentisiaid yn gweithio gydag Aelodau.
Byddai’r Adran Adnoddau Dynol yn
paratoi achos busnes ar gyfer cynllun y Comisiwn i’r Bwrdd Buddsoddi ac
Adnoddau ei ystyried.