Cyfarfodydd

CLA637 - Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/02/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016

NDM5950 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2015.

Dogfennau Ategol
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Penderfyniad:

Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.

Dechreuodd yr eitem am 14.37

NDM5950 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2015.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 


Cyfarfod: 11/01/2016 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.3)

3.3 CLA637 - Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016

Y weithdrefn gadarnhaol; Fe'i gwnaed ar: dyddiad heb ei nodi; Fe’i gosodwyd ar: Dyddiad heb ei nodi: Yn dod i rym ar: 15 Chwefror 2016

 

CLA(4)-01-16 – Papur 8 – Adroddiad

CLA(4)-01-16 – Papur 9 - Gorchymyn

CLA(4)-01-16 – Papur 10 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol: