Cyfarfodydd
P-04-660 Y Pwysau Ychwanegol sy'n Wynebu Ardaloedd Gwledig Prin eu Poblogaeth
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
4 P-04-660 Y Pwysau Ychwanegol sy’n Wynebu Ardaloedd Gwledig Prin eu Poblogaeth
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 20 KB Gweld fel HTML (4/1) 7 KB
- 05.04.2016 Gohebiaeth - y Gweinidog Addysg a Sgiliau at y Cadeirydd, Eitem 4 PDF 171 KB
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth
gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd a chytunwyd y dylid cau’r
ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunwyd
hefyd y dylid ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Ysgrifennydd y Cabinet
dros Gyllid a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn
iddynt ystyried y materion a godwyd wrth drafod y gyllideb nesaf.
Cyfarfod: 08/03/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-660 Y Pwysau Ychwanegol sy'n Wynebu Ardaloedd Gwledig Prin eu Poblogaeth
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 20 KB Gweld fel HTML (3/1) 7 KB
- 09.02.2016 Gohebiaeth – gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 204 KB
- 29.02.2016 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 44 KB Gweld fel HTML (3/3) 14 KB
Cofnodion:
Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae’n gefnogwr cofrestredig ymgyrch Achub Ysgolion Powys ac yn cymryd rhan
weithgar yn un o’i his-ymgyrchoedd.
Datganodd Russell George y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae’n aelod o Gyngor Sir Powys.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
·
ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ei sylwadau ar y wybodaeth ychwanegol
a chwestiynau a godwyd gan y deisebydd, a hefyd pam nad yw Llywodraeth Cymru yn
casglu nac yn cadw data ar symudiadau disgyblion dros ffin Cymru/Lloegr; ac
·
anfon manylion y ddeiseb ymlaen at y Pwyllgor sy’n gyfrifol am graffu ar y
Bil Llywodraeth Leol (Cymru) pan gaiff ei gyflwyno, er mwyn iddynt allu
ystyried y materion a godwyd.
Cyfarfod: 08/12/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-660 Y Pwysau Ychwanegol sy'n Wynebu Ardaloedd Gwledig Prin eu Poblogaeth
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 20 KB Gweld fel HTML (2/1) 7 KB
- 13.11.2015 Gohebiaeth – y Gweinidog Addysg a Sgiliau at y Cadeirydd, Eitem 2 PDF 165 KB
- 30.11.2015 Gohebiaeth - Deisebydd at y Tîm Clercio, Eitem 2 PDF 22 KB Gweld fel HTML (2/3) 3 KB
- 30.11.2015 Gohebiaeth - Deisebydd at y Tîm Clercio - Atodiad 1, Eitem 2 PDF 53 KB
- 30.11.2015 Gohebiaeth - Deisebydd at y Tîm Clercio - Atodiad 2, Eitem 2 PDF 53 KB
Cofnodion:
Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys ac yn llywodraethwr ysgol.
Datganodd Russell George y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys ac yn llywodraethwr ysgol.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog er mwyn:
·
Gofyn am ei farn am y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y deisebwyr;
·
Gofyn pa ymchwil sydd wedi'i wneud i'r effaith ar ddisgyblion sy'n derbyn
eu haddysg gynradd tu allan i Gymru a'u haddysg uwchradd yng Nghymru ac a oes
gan gonsortia addysg unrhyw wybodaeth am nifer y disgyblion yr effeithir arnynt
fel hyn.