Cyfarfodydd
P-04-658 Derwen Brimmon
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
4 P-04 658 Derwen Brimmon
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 17 KB Gweld fel HTML (4/1) 7 KB
- 26.05.2016 Gohebiaeth - Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith at y Cadeirydd, Eitem 4 PDF 111 KB
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a’r Seilwaith a’r deisebwr. O ystyried yr ymateb cadarnhaol gan
Ysgrifennydd y Cabinet newydd a’r sicrwydd blaenorol a roddwyd o ran amddiffyn
Derwen Brimmon, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.
Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-658 Derwen Brimmon
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 17 KB Gweld fel HTML (3/1) 7 KB
- 01.02.2016 Gohebiaeth - Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 158 KB
- 08.02.2016 Gohebiaeth - y Deisebydd at y Pwyllgor, Eitem 3 PDF 1023 KB
Cofnodion:
·
Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi rhoi cyngor gweithdrefnol
i'r deisebwyr.
·
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunwyd i ysgrifennu at
Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gofyn ei barn am sylwadau pellach y
deisebydd ac yn benodol am:
o
y ffens atal moch daear a fydd o bosibl yn peryglu'r gwreiddiau;
o
y diffyg gwybodaeth ynghylch cofrestru'r goeden gyda Choed Cadw yn 2009; a
o
natur yr 'ychydig waith' sydd ei angen yn yr ardal diogelu gwreiddiau 15
metr.
Cyfarfod: 08/12/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-658 Derwen Brimmon
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 17 KB Gweld fel HTML (2/1) 7 KB
- 26.11.2015 Gohebiaeth - Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd, Eitem 2 PDF 156 KB
- 02.12.2015 Gohebiaeth - Deisebydd at y Tîm Clercio, Eitem 2 PDF 80 KB Gweld fel HTML (2/3) 27 KB
Cofnodion:
Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n adnabod Mr Lloyd Jones ac wedi rhoi cyngor gweithdrefnol i'r
deisebwyr.
Datganodd Russell George y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi bod i weld y goeden gyda Mr Lloyd Jones ac wedi gwneud sylwadau
mewn cyfarfod ymchwiliad cyhoeddus a gynhaliwyd yn y Drenewydd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog yn gofyn iddi nodi a yw'n cefnogi gwarchod y goeden a pha gamau y
mae'n bwriadu eu cymryd i sicrhau y caiff ei gwarchod.