Cyfarfodydd
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Undebau Llafur
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 03/03/2016 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Menter: Cod Rheoleiddwyr ac Awdurdod Sylfaenol
Dogfennau ategol:
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Menter: Cod Rheoleiddwyr ac Awdurdod Sylfaenol
Cofnodion:
6.1 Nododd a chytunodd y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol ar y Bil Menter: Cod Rheoleiddwyr ac Awdurdod Sylfaenol.
Cyfarfod: 26/01/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Undebau Llafur y DU
NDM5932
Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Undebau Llafur sy'n ymwneud â gofyniad
trothwy pleidleisio ychwanegol ar gyfer gweithredu diwydiannol mewn
gwasanaethau cyhoeddus pwysig, amser o'r gwaith â thâl i gynrychiolwyr undebau
llafur a threfniadau didynnu tâl aelodaeth undeb o gyflogau, i'r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Tachwedd 2015 yn unol â
Rheol Sefydlog 29.2(i) a (iii).
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad
y Pwyllgor Menter a Busnes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.07
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5932 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn
y Bil Undebau Llafur sy'n ymwneud â gofyniad trothwy pleidleisio ychwanegol ar
gyfer gweithredu diwydiannol mewn gwasanaethau cyhoeddus pwysig, amser o'r
gwaith â thâl i gynrychiolwyr undebau llafur a threfniadau didynnu tâl
aelodaeth undeb o gyflogau, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
43 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig.
Cyfarfod: 14/01/2016 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Undebau Llafur
Dogfennau ategol:
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Undebau Llafur
- Briff Cyfreithiol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Undebau Llafur (Saesneg yn unig)
Cofnodion:
2.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil
Undebau Llafur.