Cyfarfodydd
CLA619 - Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Addasu Canlyniadol) 2015
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 08/12/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Addasu Canlyniadol) 2015
NDM5903 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru)
2014 (Addasu Canlyniadol) 2015 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2015.
Dogfennau Ategol
Gorchymyn Deddf
Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Addasu Canlyniadol) 2015
Memorandwm
Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
- Dim pwyntiau adrodd
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.04
NDM5903 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â
Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Gorchymyn
Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Addasu Canlyniadol) 2015 yn cael ei
llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18
Tachwedd 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.