Cyfarfodydd
P-04-655 Mynnu ein Hawliau i'r Gymraeg yn y Sector Breifat
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
4 P-04-655 Mynnu ein Hawliau i’r Gymraeg yn y Sector Breifat
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 21 KB Gweld fel HTML (4/1) 8 KB
- 23.03.2016 Gohebiaeth - y Prif Weinidog at y Cadeirydd, Eitem 4 PDF 171 KB
- 24.04.2016 Gohebiaeth - Comisiynydd y Gymraeg at y Pwyllgor, Eitem 4 PDF 278 KB
- 10.03.2016 - Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol at y Cadeirydd, Eitem 4 PDF 178 KB
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Prif Weinidog, Comisiynydd y
Gymraeg a chyn-Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
O ystyried yr holl ymatebion a gafwyd, a’r argymhelliad yn adroddiad
etifeddiaeth y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, cytunwyd y
dylid cau’r ddeiseb.
Cyfarfod: 02/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-655 Mynnu ein Hawliau i'r Gymraeg yn y Sector Breifat
Dogfennau ategol:
- Tudalen Flaen, Eitem 3 PDF 21 KB Gweld fel HTML (3/1) 8 KB
- 11.01.2016 Gohebiaeth – Y Prif Weinidog at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 175 KB
- 06.01.2016 Gohebiaeth – Comisiynydd y Gymraeg at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 198 KB
- Gohebiaeth – Deisebydd at y Cadeirydd (Cymraeg yn unig), Eitem 3 PDF 25 KB Gweld fel HTML (3/4) 9 KB
- Gohebiaeth – Deisebydd at y Cadeirydd (cyfieithiad Saesneg) , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/5)
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i
ysgrifennu at:
·
Gomisiynydd y Gymraeg a'r Prif Weinidog i ofyn am eu barn am sylwadau'r
deisebydd;
·
y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, sydd wedi cymryd
tystiolaeth lafar yn ddiweddar gan y Comisiynydd ynghylch y pwynt hwn, i ofyn
iddo ystyried sylwadau'r deisebwyr yn dilyn y sesiwn dystiolaeth honno a'r
amserlen ar gyfer cwblhau eu gwaith ar y mater.
Cyfarfod: 24/11/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-655 Mynnu ein Hawliau i’r Gymraeg yn y Sector Breifat
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 21 KB Gweld fel HTML (2/1) 8 KB
- 14.10.2015 Gohebiaeth - Prif Weinidog at y Cadeirydd, Eitem 2 PDF 162 KB
- 18.11.2015 Gohebiaeth - Deisebydd at y Cadeirydd (Cymraeg yn unig), Eitem 2 PDF 27 KB Gweld fel HTML (2/3) 13 KB
- 18.11.2015 Gohebiaeth - Deisebydd at y Cadeirydd (cyfieithiad Saesneg) , Gweld rhesymau dros gyfyngu (2/4)
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i
ysgrifennu at:
·
Gomisiynydd y Gymraeg i ofyn am yr amserlen ar gyfer adolygu safonau ar
gyfer cyrff preifat a chyrff yn y sector gwirfoddol na chawsant eu cynnwys yn y
garfan gyntaf; a
·
gofyn i Brif Weinidog Cymru;
o
i gadarnhau mai bwriad y Llywodraeth yw gweithredu ar yr amserlen honno; ac
i
o
ddarparu gwybodaeth bellach ar fwriadau’r Llywodraeth o ran diwygio Mesur y
Gymraeg (Cymru) 2011;
o
gofyn am wybodaeth bellach am y rhesymau pam y mae Llywodraeth Cymru wedi
gofyn i fusnesau penodol gael eu tynnu’n ôl fel rhan o’r drydedd garfan o
safonau; a
o
gofyn am eglurhad ar rôl Comisiynydd y Gymraeg wrth benderfynu pa fusnesau
y dylid eu tynnu’n ôl.