Cyfarfodydd

P-04-655 Mynnu ein Hawliau i'r Gymraeg yn y Sector Breifat

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-655 Mynnu ein Hawliau i’r Gymraeg yn y Sector Breifat

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Prif Weinidog, Comisiynydd y Gymraeg a chyn-Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. O ystyried yr holl ymatebion a gafwyd, a’r argymhelliad yn adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 02/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-655 Mynnu ein Hawliau i'r Gymraeg yn y Sector Breifat

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at:

·         Gomisiynydd y Gymraeg a'r Prif Weinidog i ofyn am eu barn am sylwadau'r deisebydd;

·         y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, sydd wedi cymryd tystiolaeth lafar yn ddiweddar gan y Comisiynydd ynghylch y pwynt hwn, i ofyn iddo ystyried sylwadau'r deisebwyr yn dilyn y sesiwn dystiolaeth honno a'r amserlen ar gyfer cwblhau eu gwaith ar y mater.

 


Cyfarfod: 24/11/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-655 Mynnu ein Hawliau i’r Gymraeg yn y Sector Breifat

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at:

·         Gomisiynydd y Gymraeg i ofyn am yr amserlen ar gyfer adolygu safonau ar gyfer cyrff preifat a chyrff yn y sector gwirfoddol na chawsant eu cynnwys yn y garfan gyntaf; a

·         gofyn i Brif Weinidog Cymru;

o   i gadarnhau mai bwriad y Llywodraeth yw gweithredu ar yr amserlen honno; ac i

o   ddarparu gwybodaeth bellach ar fwriadau’r Llywodraeth o ran diwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011;

o   gofyn am wybodaeth bellach am y rhesymau pam y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i fusnesau penodol gael eu tynnu’n ôl fel rhan o’r drydedd garfan o safonau; a

o   gofyn am eglurhad ar rôl Comisiynydd y Gymraeg wrth benderfynu pa fusnesau y dylid eu tynnu’n ôl.