Cyfarfodydd
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diwygio Lles a Gwaith
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/01/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Lles a Gwaith sy'n ymwneud â darpariaethau/diwygiadau i'r Bil ynghylch y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol
NDM5908
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diwygio Lles a Gwaith, sy'n ymwneud â thlodi
plant a symudedd cymdeithasol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2015 yn unol â
Rheol Sefydlog 29.2(i) a (iii).
Y
Bil Diwygio Lles a Gwaith (Saesneg yn unig)
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad
y Pwyllgor Menter a Busnes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.23
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5908
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diwygio Lles a Gwaith, sy'n
ymwneud â thlodi plant a symudedd cymdeithasol, i'r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
16 |
51 |
Derbyniwyd y Cynnig.