Cyfarfodydd

P-04-653 Gwahardd y Defnydd o Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-653 Gwahardd y Defnydd o Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb gan ei bod, mewn gwirionedd, wedi cyflawni ei diben.

 


Cyfarfod: 20/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-653 Gwahardd y Defnydd o Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Aelodau y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

  • Mae Joyce Watson yn cefnogi'r ddeiseb, ac mae'n bosibl ei bod wedi'i llofnodi;
  • Mae William Powell yn cefnogi'r ddeiseb; ac
  • Mae Bethan Jenkins hefyd yn cefnogi'r ddeiseb ac wedi'i llofnodi ar wefan yr RSPCA.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddi:

·         wneud sylwadau ar sylwadau pellach y deisebydd;  

·         am ragor o wybodaeth am yr adolygiad, gan gynnwys manylion ynghylch yr amserlen debygol, sut y bydd y gwaith yn cael ei wneud, a'r sefydliadau y byddwn yn cysylltu â hwy;

·         gwneud sylwadau ar ba un a ellir defnyddio pwerau o dan adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 i gyflwyno gwaharddiad, os yw tystiolaeth yr adolygiad annibynnol ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn awgrymu fod angen gwneud hynny; ac

·         a yw'n credu fod angen deddfwriaeth sylfaenol.