Cyfarfodydd

Cynllun Pensiwn AS

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/11/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Cynllun Pensiwn yr Aelodau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2
  • Cyfyngedig 3
  • Cyfyngedig 4

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiynwyr lythyr gan y Actiwari Cynllun Pensiwn yr Aelodau a nododd ganlyniadau’r prisiad arferol diweddaraf a’u hargymhelliad ynghylch lefel y cyfraniadau y dylai’r Comisiwn eu talu i’r Cynllun dros y tair blynedd nesaf.

Cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i lythyr yr Actiwari.


Cyfarfod: 26/09/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Cynllun Pensiwn yr Aelodau – newid i fuddsoddiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 7
  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr newid i strategaeth fuddsoddi Cynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd, a wnaed gan y Bwrdd Pensiynau.


Cyfarfod: 11/07/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Enwebiad aelod o'r Bwrdd Pensiynau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 11

Cofnodion:

Cafodd opsiynau ar gyfer penodi Ymddiriedolwr Enwebedig y Comisiwn ar y Bwrdd Pensiynau ar gyfer Cynllun Pensiwn yr Aelodau eu cyflwyno i’r Comisiynwyr.

 

Cytunodd y Comisiynwyr i enwebu Bob Evans i'w ailbenodi'n Ymddiriedolwr Enwebedig y Comisiwn am dymor pellach, cyhyd ag y bydd yn parhau'n Gynghorydd Annibynnol y Comisiwn.

 

Gofynnodd y Comisiynwyr hefyd i swyddogion ystyried y potensial i ymestyn ei benodiad presennol fel Cynghorydd Annibynnol, gyda golwg ar y cyfnod o newid sylweddol a ragwelir ar gyfer gweddill tymor y Chweched Senedd.


Cyfarfod: 28/09/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Newid rheolau cynllun pensiwn Aelodau o’r Senedd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 14

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr fod y Bwrdd Taliadau wedi ysgrifennu am gynnig i newid rheolau’r Cynllun i roi hyblygrwydd i'r Actiwari, o ran pryd y mae'n rhaid cwblhau a llofnodi'r prisiad actiwaraidd. Ymgynghorwyd â'r holl Aelodau.


Cyfarfod: 27/01/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)

Newid y Bwrdd Pensiwn i strategaeth fuddsoddi

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 17

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth a gafwyd gan y Bwrdd Pensiwn am newid i strategaeth fuddsoddi Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad, sef gostwng buddsoddiadau’r Cynllun yn y sector olew a nwy.

 


Cyfarfod: 04/11/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Cynllun pensiwn Aelodau’r Cynulliad - datganiad o egwyddorion buddsoddi

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 20
  • Cyfyngedig 21

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y newidiadau yn y Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi a wnaed gan Fwrdd Pensiynau Aelodau’r Cynulliad, yn unol â’r gofynion datgelu newydd


Cyfarfod: 09/07/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Strategaeth Buddsoddi'r Bwrdd Pensiynau

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y strategaeth fuddsoddi a gytunwyd gan y Bwrdd Pensiynau.


Cyfarfod: 19/03/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Gweinyddu Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad - Adroddiad archwilio

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 26

Cofnodion:

Derbyniodd y Comisiynwyr yr adroddiad archwiliad mewnol o Gynllun Pensiwn yr AC, a’i nodi. Mae’r archwiliad wedi cofnodi graddfa barn sicrwydd sylweddol sy’n golygu, ar sail canlyniadau’r gwaith a wneir, fod yr Archwiliad Mewnol yn dod i’r casgliad bod fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth y Cynllun yn ddigonol ac yn effeithiol.


Cyfarfod: 26/02/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Prisiad actiwaraidd Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 29

Cofnodion:

Gofynnwyd i’r Comisiynwyr roi eu barn ynghylch a ddylid mabwysiadu rhagamcanion poblogaeth diweddaraf Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer 2016 i’w defnyddio ym mhrisiad y Cynllun Pensiwn Aelodau. Cytunwyd y dylid.


Cyfarfod: 27/02/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Aelodaeth o'r Bwrdd Pensiynau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Llywydd y newid o ran yr aelod o'r Bwrdd Pensiynau a enwebwyd gan y Comisiwn, o Suzy Davies i Joyce Watson. Roedd y Comisiynwyr eisoes yn ymwybodol o'r newid, a rhoddwyd cadarnhad fod y llythyr ffurfiol wedi'i anfon at y Bwrdd Taliadau ar 16 Chwefror.


Cyfarfod: 16/06/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad - Cynrychiolwyr y Bwrdd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 34

Cofnodion:

Y Bwrdd Taliadau sy’n gyfrifol am Gynllun Pensiwn yr Aelodau a chyflwynodd gynllun newydd o fis Mai 2016. Ym mis Tachwedd 2015, cytunodd y Comisiynydd mai'r Swyddog Cyfrifyddu, mewn ymgynghoriad â'r Comisiynwyr, ddylai fod yn gyfrifol am nodi ac enwebu cynrychiolwyr y Comisiwn i'r Bwrdd Pensiynau newydd.

 

Ystyriodd y Comisiynwyr argymhellion y Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer cynrychiolwyr y Comisiwn a chytunwyd mai’r Cyfarwyddwr Cyllid a Suzy Davies AC y dylent fod.

 

Aelodau eraill y Bwrdd fydd Jill Youds, a benodwyd yn Gadeirydd Annibynnol yr Ymddiriedolwyr, Mike Hedges (AC presennol, Llafur) a Gareth Jones (cyn Aelod Cynulliad, Plaid Cymru).

 

 


Cyfarfod: 11/11/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 37

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybodaeth i’r Comisiynwyr am y modd y mae’r Tîm Pensiynau yn gweithredu’r newidiadau y penderfynodd y Bwrdd Taliadau eu gwneud i Gynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad, ac yn rhoi gwybod i’r Aelodau am y newidiadau hyn.

 

Bydd y Bwrdd Pensiynau newydd yn cynnwys:

        Ymddiriedolwr Annibynnol proffesiynol, a fydd yn cadeirio’r Bwrdd.

        Dau gynrychiolydd a enwebir gan yr Aelodau presennol ac Aelodau blaenorol.

        Dau gynrychiolydd a benodir gan Gomisiwn y Cynulliad.

 

Bydd y Tîm Pensiynau yn trefnu bod pob aelod o'r Bwrdd Pensiynau wedi’i benodi erbyn mis Mai 2016. Byddant yn ysgrifennu at yr holl aelodau yn gofyn iddynt a ydynt yn dymuno sefyll fel Ymddiriedolwr a enwebir gan Aelodau, a gofynnodd y Comisiynwyr a fyddai modd cysylltu â swyddfeydd y grwpiau hefyd.

 

Cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r Swyddog Cyfrifyddu, mewn ymgynghoriad â’r Comisiynwyr, fod yn gyfrifol am nodi ac enwebu cynrychiolwyr y Comisiwn ar y Bwrdd Pensiynau newydd.