Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Menter

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandum rhif 4) ar gyfer y darpariaethau yn y Bil Menter sy’n ymwneud â Swyddi Sector Cyhoeddus: Cyfyngu ar Daliadau Ymadael

NDM5994 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter sy'n ymwneud â chyfyngu ar daliadau ymadael y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 4) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Diwygiedig (Memorandwm rhif 4) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

http://services.parliament.uk/bills/2015-16/enterprise.html

Dogfennau Ategol
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 4)
Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.20

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5994 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter sy'n ymwneud â chyfyngu ar daliadau ymadael y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

12

52

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 15/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y darpariaethau ym Mil Menter y DU mewn perthynas â rhannu data ar gyfer prentisiaethau

NDM5996 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth mewn perthynas â phrentisiaethau, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 5) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

http://services.parliament.uk/bills/2015-16/enterprise.html

Dogfennau Ategol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 5)
Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.51

NDM5996 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth mewn perthynas â phrentisiaethau, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 15/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar gyfer y Bil Menter mewn perthynas â darpariaethau Cod Rheoleiddwyr ac Awdurdod Sylfaenol

NDM5992 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â gwelliannau i Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 mewn perthynas â'r cynllun Awdurdod Sylfaenol a gwelliannau i Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 mewn perthynas ag egwyddorion a chod y rheoleiddwyr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i) a (iii).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

http://services.parliament.uk/bills/2015-16/enterprise.html

Dogfennau Ategol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3)
Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.16

NDM5992 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â gwelliannau i Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 mewn perthynas â'r cynllun Awdurdod Sylfaenol a gwelliannau i Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 mewn perthynas ag egwyddorion a chod y rheoleiddwyr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 09/03/2016 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Menter

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.


Cyfarfod: 03/12/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Menter

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1.1 Nodwyd y Papur gan y Pwyllgor.


Cyfarfod: 01/12/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y darpariaethau sy'n ymwneud â'r Swyddfa Brisio sy'n deillio o'r Bil Menter

NDM5892 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth am ardrethi annomestig gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Dogfennau Ategol
Bil Menter Llywodraeth y DU (Saesneg yn unig)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.49

NDM5892 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth am ardrethi annomestig gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 01/12/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y darpariaethau sy'n ymwneud â'r Comisiynydd Busnesau Bach sy'n deillio o'r Bil Menter

NDM5891 Edwina Hart (Gŵyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter sy'n ymwneud â'r Comisiynydd Busnesau Bach, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 2) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Dogfennau Ategol
Bil Menter Llywodraeth y DU (Saesneg yn unig)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 2)
Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.51

NDM5891 Edwina Hart (Gŵyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter sy'n ymwneud â'r Comisiynydd Busnesau Bach, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 05/11/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol - Comisiynydd Busnesau Bach

Gareth Pembridge, Gwasanaethau Cyfreithiol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

  • EBC(4)-25-15 (p. ) Briff Cyfreithiol ar gyfer Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Comisiynydd Busnesau Bach a chytunwyd arno.