Cyfarfodydd

Amcangyfrifon Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2016-17

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/11/2015 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus: Amcangyfrif o incwm a threuliau ar gyfer 2016-17: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 11 - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 07/10/2015 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Amcangyfrif o incwm a threuliau ar gyfer 2016-17: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a nodwyd y bydd adroddiad drafft yn cael ei baratoi i'w drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 5 Tachwedd 2015.

 


Cyfarfod: 07/10/2015 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Amcangyfrif o incwm a threuliau ar gyfer 2016-17: Sesiwn dystiolaeth 1

Nick Bennet, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Susan Hudson, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu

David Meaden, Cyfrifydd Ariannol

 

Papur 2 - Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2016-17

Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu'r Aelodau'n craffu ar waith Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, David Meaden, Cyfrifydd Ariannol, a Susan Hudson, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu ar amcangyfrif Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2016-17. 

 

4.2 Cytunodd yr Ombwdsmon i roi dadansoddiad i'r Pwyllgor o'r mathau o gŵynion tai a ddaeth i law.