Cyfarfodydd

Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/02/2013 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

13.00 – 14.00 : Sesiwn graffu ariannol

14.00 – 15.00 : Sesiwn graffu gyffredinol

 

E&S(4)-06-13 papur 2

 

Alun Davies AC, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Andrew Slade, Cyfarwyddwr Polisi'r UE a Chyllido

Rob Hunter, Cyfarwyddwr Cyllid a Pherfformiad

Gary Haggaty, Dirprwy Gyfarwyddwr Materion Gwledig

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu'r Dirprwy Weinidog a'i swyddogion yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 24/01/2013 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Y wybodaeth ddiweddaraf am Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd (14.00 - 15.00)

Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

 

Damien O'Brien, Prif Weithredwr, WEFO

 

Rob Halford, Pennaeth Cynllunio a Strategaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion. Rhoddodd y Gweinidog y wybodaeth ddiweddaraf am Gronfeydd Strwythurol yr UE ac atebodd gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Cam i’w gymryd:

Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu nodiadau ar y pwynt a ganlyn:

·         Canran rhaglenni’r UE y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwario ar fesur a gwerthuso llwyddiant y rhaglenni Cronfeydd Strwythurol sy’n cael eu rheoli a’u gweithredu gan Lywodraeth Cymru (drwy WEFO)

 

Papur ychwanegol gan y Gweinidog


Cyfarfod: 04/10/2012 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd - camau sy'n codi o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf

E&S(4)-23-12 papur 3

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 27/09/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Sesiwn ddiweddaru gyda'r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd ynglŷn â'r rhaglen Horizon 2020 a Chronfeydd Strwythurol yr UE

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

 

Damien  O'Brien - Prif Weithredwr, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru  

 

Dr Alastair Davies - Pennaeth Polisi Arloesedd, Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

 

 

 

 

 

 

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion. Rhoddodd y Gweinidog y wybodaeth ddiweddaraf am Horizon 2020 a Chronfeydd Strwythurol yr UE ac atebodd gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Cam i’w gymryd:

 

Cynigiodd y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd i ysgrifennu at y Pwyllgor gydag amserlen o ddigwyddiadau a thrafodaethau sy’n debygol o ddigwydd dros y flwyddyn nesaf. Hefyd, cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu copi cynnar o adroddiad Dr Guildford pan yn bosibl. 

 


Cyfarfod: 25/07/2012 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

E&S(4)-22-12 papur 1

 

Alun Davies AC, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Gary Haggaty, Pennaeth Amaeth, Pysgodfeydd a’r Strategaeth Wledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1        Ymatebodd y Dirprwy Weinidog i gwestiynau oddi wrth aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2        Mewn perthynas â chwotâu pysgota, cynigiodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am gasglu data o fflyd y glannau yng Nghymru.


Cyfarfod: 22/09/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Sesiwn i graffu ar waith y Dirprwy Weinidog: Rhaglenni Ewropeaidd ( 10.15 - 11.00)

EBC(4)-02-11 Papur 2 

 

·         Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

·         Damien O'Brien, Cyfarwyddwr, WEFO

·         Jane McMillan, Cyfarwyddwr Dros Dro'r Is-adran Rheoli Rhaglenni a Chyllid, WEFO

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Croesawodd y Cadeirydd y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, a’i swyddogion, i’r cyfarfod. Holwyd y Dirprwy Weinidog gan Aelodau.

 

3.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor er mwyn rhoi:

·         Rhagor o wybodaeth am lwyddiant prosiectau cyllid Ewropeaidd

·         Rhagor o wybodaeth a data am nifer y bobl a chwmnïau sydd wedi cael budd o gyllid Ewropeaidd


Cyfarfod: 19/07/2011 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn Graffu gyda'r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Alun Davies AC, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Rory O’Sullivan, Cyfarwyddwr Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Dirprwy Weinidog a’i swyddog i’r cyfarfod. Bu aelodau’r Pwyllgor yn holi’r Dirprwy Weinidog.

 

2.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor yn ystod y toriad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau y mae’n eu cynnal ar oddefgarwch i ddyfeisiau adnabod electronig.