Cyfarfodydd

CLA579 - Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Personau nad yw’r Galluedd ganddynt i Gydsynio) (Cymru) 2015

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/10/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10.)

Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Personau nad yw’r Galluedd Ganddynt i Gydsynio) (Cymru) 2015 – i'w gwneud o dan Adran 9 o'r Ddeddf

NDM5835 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Trawsblannu Dynol (Personau nad yw'r Galluedd ganddynt i Gydsynio) (Cymru) 2015 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Medi 2015.

Dogfennau Ategol
Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Personau nad yw'r Galluedd ganddynt i Gydsynio) (Cymru) 2015
Memorandwm Esboniadol
(Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Dim pwyntiau adrodd


Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.02

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5835 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Trawsblannu Dynol (Personau nad yw'r Galluedd ganddynt i Gydsynio) (Cymru) 2015 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Medi 2015.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

1

10

49

Derbyniwyd y Cynnig.

 


Cyfarfod: 21/09/2015 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.4)

CLA579 - Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Personau nad yw’r Galluedd ganddynt i Gydsynio) (Cymru) 2015

Y weithdrefn gadarnhaol; Fe'u gwnaed ar: Dyddiad heb ei nodi; Fe’u gosodwyd ar: 11 Medi 2015; Yn dod i rym ar: 1 Rhagfyr 2015