Cyfarfodydd

Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/12/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r cynllun ‘Pan fydda i’n barod’

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3b.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r cynllun ‘Pan fydda i’n barod’.

 


Cyfarfod: 21/11/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol - Trefniadau am ofal iechyd parhaus y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

HSC(4)-31-12 papur 8

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.


Cyfarfod: 14/07/2011 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol (10:00 - 11:00)

·         Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

·         Rob Pickford, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

·         Martin Swain, Swyddog Arweiniol ar Weithio mewn Partneriaeth ym maes Plant a Theuluoedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, i’r cyfarfod.

 

3.2 Bu’r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan yr Aelodau am ei phortffolios a’i blaenoriaethau.

 

3.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn i’r Pwyllgor:

 

·         Nifer yr achosion mae CAFCASS yn ymdrin â hwy ar hyn o bryd;

·         Goblygiadau y gallai newidiadau mewn cymorth cyfreithiol eu cael ar faterion amddiffyn plant;

·         Nifer yr achosion llys a gaiff eu cyfeirio gan awdurdodau lleol.