Cyfarfodydd
Equality
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 17/02/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Llythyr gan y Prif Weithredwyr at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â thrais ar sail rhywedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
llythyr gan y Prif Weithredwr a’r Clerc at y Pwyllgor Cydraddoldeb a
Chyfiawnder Cymdeithasol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau i
ddarparu cyfleoedd hyfforddi i Aelodau i gefnogi argymhelliad y Pwyllgor i
Aelodau gael hyfforddiant ar atal trais ar sail rhywedd.
Cyfarfod: 29/01/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Adrodidad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
- Cyfyngedig 6
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
llythyrau at y Llywydd a'r Prif Weithredwr gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a
Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar yr ymchwiliad i ddull
iechyd y cyhoedd o atal trais ar sail rhywedd. Mae argymhelliad 12 yn cynnig
bod pob Aelod o’r Senedd yn ymrwymo i gwblhau hyfforddiant ar atal trais ar
sail rhywedd. Caiff yr ymatebion arfaethedig eu rhannu â'r Comisiynwyr.