Cyfarfodydd
Datlygiad Proffesiynol Parhaus (Pumed Senedd)
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/03/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 1)
Sesiwn friffio ar graffu deddfwriaethol
Daniel Greenberg
Cofnodion:
1.1. Cafodd y
Pwyllgor sesiwn friffio ar graffu deddfwriaethol gan Daniel Greenberg,
Cynghorydd Arbenigol.
Cyfarfod: 08/03/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
5 Llythyr at y Cadeiryddion ynghylch Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Cytunodd yr Aelodau i drafod y mater hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cyfarfod: 07/12/2016 - Fforwm y Cadeiryddion - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) - (12:25-12:40)
Abi
Phillips - Staff Comisiwn y Cynulliad, Rheolwr Prosiect Datblygiad Proffesiynol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/1)
Cofnodion:
Amlinellodd Abi Phillips gynnwys y papur a gofynnodd i’r Cadeiryddion roi
sylwadau ar effeithiolrwydd y DPP a gyflwynwyd i’r pwyllgorau ers mis Mai – a
oeddent yn awyddus i gael rhagor o sesiynau a beth oedd eu barn am yr hwyluswyr a ddefnyddiwyd?
Dywedodd y Llywydd ei bod am i’r Aelodau gael mwy o gymorth i ofyn
cwestiynau gan nodi nad oedd darllen cwestiynau a oedd wedi’u paratoi neu eu
hawgrymu iddynt yn effeithiol. Roedd angen defnyddio dulliau holi manylach i
wella’r gwaith craffu.
Nodwyd bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi gofyn am sesiwn arall yn
dilyn y gwaith cychwynnol gyda Kate Faragher. Roeddent wedi cael adborth gonest
ar sesiynau craffu cynharach. Roedd y Pwyllgor hefyd wedi cytuno i gynnal
sesiwn arall ymhen chwe mis. Cytunwyd y byddai swyddogion yn paratoi nodyn
ar gyfer y cadeiryddion ar y modd y cynhaliwyd sesiynau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i’w galluogi i ystyried sut i’w cymhwyso’n
ehangach.
Y wybodaeth ddiweddaraf: Wedi cwblhau.]
Cyfarfod: 13/07/2016 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
4 Cyflwyniad ar ddatblygiad proffesiynol parhaus i Aelodau
Dogfennau ategol:
- Papur 5: Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i Aelodau a Chadeiryddion Pwyllgorau
Cofnodion:
Gwrandawodd aelodau’r Pwyllgor ar gyflwyniad ar ddatblygiad proffesiynol
parhaus
Cyfarfod: 05/10/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Datblygiad Proffesiynol Parhaol i Aelodau a Staff Cymorth yn y Pumed Cynulliad
MB 12-15 Papur 2 – Datblygiad Proffesiynol Parhaol yn y
Pumed Cynulliad – papur clawr drafft ar gyfer y Comisiwn
MB 12-15 Papur 2 – Canfyddiadau’r Arolwg Datblygiad
Proffesiynol Parhaol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 15
- Cyfyngedig 16
Cofnodion:
Datblygiad Proffesiynol Parhaus i Aelodau a staff
cymorth y Pumed Cynulliad
Croesawyd Carys Evans i'r cyfarfod i drafod canlyniadau’r adolygiad trylwyr
o raglen DPP y Pedwerydd Cynulliad. Y tîm Datblygiad Proffesiynol Parhaus, gyda
Gareth Watts, oedd yn gyfrifol am yr adolygiad hwn. Y nod oedd dysgu gwersi a
gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol ac roedd yn cynnwys cael barn yr Aelodau
drwy gyfrwng arolwg.
Yn gyffredinol, roedd yr Aelodau'n hapus â’r ddarpariaeth ac roedd nifer
fawr wedi manteisio ar y rhaglen, ond roedd angen rhoi sylw i rai agweddau ee
gwerthuso effaith y DPP yn effeithiol, sicrhau bod yr Aelodau yn atebol am
hyfforddiant eu staff a bod hyfforddiant ar gael i staff cymorth y tu allan i
Gaerdydd.
Gwnaeth y Bwrdd Rheoli yr argymhellion a ganlyn:
·
dylid neilltuo mwy o amser i DPP ac i hyfforddiant cadeiryddion
pwyllgorau’n benodol; dylid seilio’r papur ar adroddiad drafft fforwm y
Cadeiryddion;
·
dylid rhoi mwy o bwyslais ar ddwyieithrwydd - Carys Evans a Mair
Parry-Jones i drafod hyn;
·
dylid cyfuno’r adroddiad ar DPP a'r eitem a ganlyn (croesawu ac ymsefydlu)
mewn un papur;
·
Non Gwilym, Lowri Williams a Carys Evans i drafod sut i hyrwyddo’n allanol
y modd rydym yn darparu ein rhaglen DPP.
1.1 Cyflwynir cyfeiriad
cyffredinol y gwaith a braslun o’r dull o weithredu i’r Comisiynwyr yn eu
cyfarfod ar 21 Hydref.