Cyfarfodydd

Datlygiad Proffesiynol Parhaus (Pumed Senedd)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/03/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 1)

Sesiwn friffio ar graffu deddfwriaethol

Daniel Greenberg

Cofnodion:

1.1.      Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar graffu deddfwriaethol gan Daniel Greenberg, Cynghorydd Arbenigol.

 


Cyfarfod: 08/03/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr at y Cadeiryddion ynghylch Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau i drafod y mater hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 07/12/2016 - Fforwm y Cadeiryddion - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) - (12:25-12:40)

Abi Phillips - Staff Comisiwn y Cynulliad, Rheolwr Prosiect Datblygiad Proffesiynol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Amlinellodd Abi Phillips gynnwys y papur a gofynnodd i’r Cadeiryddion roi sylwadau ar effeithiolrwydd y DPP a gyflwynwyd i’r pwyllgorau ers mis Mai – a oeddent yn awyddus i gael rhagor o sesiynau a beth oedd eu barn am yr  hwyluswyr a ddefnyddiwyd?

Dywedodd y Llywydd ei bod am i’r Aelodau gael mwy o gymorth i ofyn cwestiynau gan nodi nad oedd darllen cwestiynau a oedd wedi’u paratoi neu eu hawgrymu iddynt yn effeithiol. Roedd angen defnyddio dulliau holi manylach i wella’r gwaith craffu.

Nodwyd bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi gofyn am sesiwn arall yn dilyn y gwaith cychwynnol gyda Kate Faragher. Roeddent wedi cael adborth gonest ar sesiynau craffu cynharach. Roedd y Pwyllgor hefyd wedi cytuno i gynnal sesiwn arall ymhen chwe mis. Cytunwyd y byddai swyddogion yn paratoi nodyn ar gyfer y cadeiryddion ar y modd y cynhaliwyd sesiynau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i’w galluogi i ystyried sut i’w cymhwyso’n ehangach. 

Y wybodaeth ddiweddaraf: Wedi cwblhau.]


Cyfarfod: 13/07/2016 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Cyflwyniad ar ddatblygiad proffesiynol parhaus i Aelodau

Dogfennau ategol:

  • Papur 5: Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i Aelodau a Chadeiryddion Pwyllgorau

Cofnodion:

Gwrandawodd aelodau’r Pwyllgor ar gyflwyniad ar ddatblygiad proffesiynol parhaus

 


Cyfarfod: 05/10/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)

Datblygiad Proffesiynol Parhaol i Aelodau a Staff Cymorth yn y Pumed Cynulliad

MB 12-15 Papur 2 – Datblygiad Proffesiynol Parhaol yn y Pumed Cynulliad – papur clawr drafft ar gyfer y Comisiwn  

MB 12-15 Papur 2 – Canfyddiadau’r Arolwg Datblygiad Proffesiynol Parhaol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 15
  • Cyfyngedig 16

Cofnodion:

Datblygiad Proffesiynol Parhaus i Aelodau a staff cymorth y Pumed Cynulliad

Croesawyd Carys Evans i'r cyfarfod i drafod canlyniadau’r adolygiad trylwyr o raglen DPP y Pedwerydd Cynulliad. Y tîm Datblygiad Proffesiynol Parhaus, gyda Gareth Watts, oedd yn gyfrifol am yr adolygiad hwn. Y nod oedd dysgu gwersi a gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol ac roedd yn cynnwys cael barn yr Aelodau drwy gyfrwng arolwg.

Yn gyffredinol, roedd yr Aelodau'n hapus â’r ddarpariaeth ac roedd nifer fawr wedi manteisio ar y rhaglen, ond roedd angen rhoi sylw i rai agweddau ee gwerthuso effaith y DPP yn effeithiol, sicrhau bod yr Aelodau yn atebol am hyfforddiant eu staff a bod hyfforddiant ar gael i staff cymorth y tu allan i Gaerdydd.

Gwnaeth y Bwrdd Rheoli yr argymhellion a ganlyn:

·                dylid neilltuo mwy o amser i DPP ac i hyfforddiant cadeiryddion pwyllgorau’n benodol; dylid seilio’r papur ar adroddiad drafft fforwm y Cadeiryddion;

·                dylid rhoi mwy o bwyslais ar ddwyieithrwydd - Carys Evans a Mair Parry-Jones i drafod hyn;

·                dylid cyfuno’r adroddiad ar DPP a'r eitem a ganlyn (croesawu ac ymsefydlu) mewn un papur;

·                Non Gwilym, Lowri Williams a Carys Evans i drafod sut i hyrwyddo’n allanol y modd rydym yn darparu ein rhaglen DPP.

1.1     Cyflwynir cyfeiriad cyffredinol y gwaith a braslun o’r dull o weithredu i’r Comisiynwyr yn eu cyfarfod ar 21 Hydref.