Cyfarfodydd

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Lleoliaeth

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/01/2012 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.2)

5.2 Gwelliannau i'r Bil Lleoliaeth

Papurau:

 

CLA(4)-01-12(p5) – Llythyr i’r Gweinidog gan y Cadeirydd dyddiedig 14 Tachwedd 2011

CLA(4)-01-12(p6) – Ymateb y Prif Weinidog dyddiedig 15 Rhagfyr 2011 (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/10/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil Senedd y DU ynghylch Lleoliaeth

NDM4808 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ogystal â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4642, NNDM4722 ac NNDM4785, y darpariaethau ychwanegol hynny a gyflwynwyd i’r Bil Lleoliaeth ynghylch Rhagdybiaethau Cynllunio Gorchmynion Prynu Gorfodol, Sail 16 Atodlen 2 Deddf Tai 1985 ac Asedau ag iddynt Werth Cymunedol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dogfennau Ategol

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

I weld copi o’r Bil Lleoliaeth:

http://services.parliament.uk/bills/2010-11/localism.html

 

Penderfyniad:

NDM4808 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ogystal â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4642, NNDM4722 ac NNDM4785, y darpariaethau ychwanegol hynny a gyflwynwyd i’r Bil Lleoliaeth ynghylch Rhagdybiaethau Cynllunio Gorchmynion Prynu Gorfodol, Sail 16 Atodlen 2 Deddf Tai 1985 ac Asedau ag iddynt Werth Cymunedol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Lleoliaeth

NNDM4785 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)

 

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau pellach hynny y daethpwyd â hwy gerbron yn y Bil Lleoliaeth sy’n ymwneud â Chynlluniau Adneuon Tenantiaeth a thrwyddedu tai amlfeddiannaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4642 a NNDM4722.

Cafodd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).


Dogfennau Ategol
Gellir gweld copi o’r
Mesur Seneddol Lleoliaeth drwy ddilyn y linc:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/localism.html

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Adroddiad

 

 

Penderfyniad:

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 07/07/2011 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

4. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Senedd y DU ynghylch Lleoliaeth

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

4. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Senedd y DU ynghylch Lleoliaeth

NDM4722 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NNDM4642, y darpariaethau ychwanegol hynny a gyflwynwyd i’r Bil Lleoliaeth ynghylch pwerau cyffredinol a phwerau codi ffioedd i awdurdodau tân ac achub yng Nghymru a hawl y gymuned i brynu, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Gellir cael mynediad i NNDM4642 drwy’r linc a ganlyn:

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-third-assembly/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-motions.htm?act=dis&id=208215&ds=1/2011

I weld copi o’r Bil Lleoliaeth:

http://services.parliament.uk/bills/2010-11/localism.html

 

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 25/05/2011 - Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: y Mesur Seneddol ynghylch Lleoliaeth

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried dau bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar gyfer gwelliannau a gyflwynwyd i’r Bil Seneddol ynghylch Addysg a’r Bil Seneddol ynghylch Lleoleiddio. Oherwydd nid oes unrhyw bwyllgorau wedi cael eu sefydlu i ystyried y memoranda hyn, cytunodd y Pwyllgor Busnes, o dan Reol Sefydlog 29.4, na ddylent gael eu cyfeirio at bwyllgorau i gael eu hystyried, felly byddant yn cael eu cyflwyno i’w trafod yn y Cyfarfod Llawn.