Cyfarfodydd
Financial Management Reports
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 08/02/2018 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Yr Adroddiad Rheolaeth Ariannol Ionawr 2018
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Rhoddodd Nia Morgan grynodeb byr o'r FMR ar gyfer mis
Ionawr. Mae'r arian dros ben o'r Gronfa Fuddsoddi a ryddhawyd o'r gostyngiadau
a'r arbedion gan wasanaethau, yn golygu bod yr IRB yn gallu cymeradwyo cwblhau
atgyweiriadau hanfodol ar yr ystadau a gwaith TGCh yn y flwyddyn ariannol hon,
a oedd wedi cael eu gohirio tan y flwyddyn ganlynol yn flaenorol. Mae hyn yn
golygu bod cronfa fuddsoddi'r flwyddyn ariannol nesaf yn ddigonol er mwyn
galluogi gwariant ar brosiectau. Roedd y tanwariant a ragwelwyd ar gyfer
2017-18 yn ôl ar y targed ac o fewn y KPI.
Fis Chwefror oedd y cyfle olaf i addasu rhagolygon a
gofynnodd Nia i'r Bwrdd ei hysbysu o unrhyw newidiadau neu wariant brys, gan
bwysleisio'r angen am ragolygu cywir.
Cyfarfod: 11/01/2018 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Adroddiad Rheolaeth Ariannol Rhagfyr 2017
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Rhoddodd Nia Morgan amlinelliad byr o'r Adroddiad
Rheolaeth Ariannol ar gyfer mis Rhagfyr, gan ailadrodd bod y sefyllfa ariannol
yn parhau i fod yn heriol iawn, ond bod gwarged y Gronfa Fuddsoddi wedi gwella
o ganlyniad i ddiweddariad i'r rhagolygon a adroddwyd, gan roi clustog mwy
synhwyrol ar gyfer unrhyw gostau anhysbys yn y dyfodol.
Gofynnwyd i'r Bwrdd roi gwybod i Nia am unrhyw
newidiadau sy'n dod i'r amlwg i'r rhagolygon neu'r gwariant brys, cyn cyfarfod
y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau yr wythnos ganlynol.
Roedd taenlenni newydd yn cael eu cyflwyno i hwyluso
cyllidebu a rhagolygu mwy cywir ar gyfer 2018-19 a gofynnwyd i'r Bwrdd ystyried
sut i wneud arbedion ar gyllidebau ar draws Cyfarwyddiadau er mwyn darparu
cronfa wrth gefn.
Cafodd y Bwrdd Rheoli wybod hefyd y byddai gwaith ar y
gyllideb 2019-2020 yn dechrau cyn bo hir.
Cyfarfod: 07/12/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Adroddiad Rheolaeth Ariannol Tachwedd 2017
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Rhoddodd Nia Morgan amlinelliad byr o’r Adroddiad
Rheolaeth Ariannol ar gyfer mis Tachwedd, a rhoddodd deyrnged i’r holl feysydd
Gwasanaeth am eu hymdrechion wrth adolygu ac ad-drefnu rhagolygon gwariant, i
ryddhau arian i ganiatáu bod swm diogel wrth gefn ar yr adeg hon o’r flwyddyn,
nes daw ein hanghenion yn fwy eglur. Byddai’r gronfa hon yn cael ei
hailddyrannu i feysydd Gwasanaeth fel bo’r angen wrth i’r Bwrdd Buddsoddi ac
Adnoddau ystyried y blaenoriaethau a’r teilyngdod ar gyfer gwariant doeth, ac i
ryddhau pwysau o ran y flwyddyn ariannol nesaf.
Roedd y Llywydd wedi rhoi neges gyhoeddus glir
neithiwr am ymrwymiad i fod mor ddarbodus â phosibl wrth gefnogi Cynulliad mwy.
Wrth i’r gofynion ddod yn fwy eglur dros y misoedd nesaf, byddai angen gwneud
cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod, i osgoi llwyth gwaith gormodol y
flwyddyn nesaf.
CAMAU I’W CYMRYD:
·
Dave Tosh i
ddosbarthu cylch cynllunio cyllideb, y byddai drafft ohono’n cael ei gyflwyno
i’r Comisiynwyr ym mis Ebrill.
·
Penaethiaid
Gwasanaethau i roi gwybod i Nia Morgan a fyddai angen unrhyw wariant brys, ac i
fod yn wyliadwrus o ran nodi risgiau neu weithredu o ran pwyntiau o bwysau.
Cyfarfod: 13/11/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 9)
Adroddiad Rheolaeth Ariannol Hydref 2017
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
Rhoddodd Nia Morgan amlinelliad byr o'r adroddiad
rheolaeth ariannol ar gyfer mis Hydref, gan ailadrodd bod y sefyllfa ariannol
yn parhau i fod yn heriol iawn, ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol a'r un
ganlynol.
Cyfarfod: 09/10/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)
Adroddiad Rheoli Ariannol Medi 2017
Cofnodion:
Cyflwynodd Nia Morgan Adroddiad Rheolaeth Ariannol mis Medi. Roedd y
sefyllfa ariannol eleni yn parhau'n heriol, felly roedd angen rheolaeth
ariannol a rhagfynegi cywir er mwyn cyflawni o fewn y gyllideb. Adolygodd y
Bwrdd yr amrywiant presennol rhwng dyraniadau a gwariant a ragwelir o fewn
meysydd gwasanaeth a byddai Nia yn cwrdd â phob un o'r Penaethiaid Gwasanaeth
dros yr wythnos ganlynol i drafod y gwariant a ragwelir hyd ddiwedd y flwyddyn
a gwirio unrhyw danwariant sydd ar gael ar gyfer y gronfa fuddsoddi.
Cyfarfod: 18/09/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Adroddiad ar Reoli Cyllid - Awst 2017
Papur i’w nodi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 16
Cofnodion:
Trafododd y Bwrdd yr Adroddiad ar Reoli Cyllid ar gyfer mis Awst, a hynny
cyn i'r adolygiad nesaf gael ei gynnal ddiwedd mis Medi. Mae'r sefyllfa ariannol ar gyfer eleni yn parhau i fod yn heriol, felly
bydd angen bod yn ofalus wrth reoli arian er mwyn cadw o fewn y gyllideb.
Gofynnwyd i'r Bwrdd adolygu'r ffigurau ar gyfer eu meysydd gwasanaeth i sicrhau
eu bod yn fanwl gywir.
Nododd Nia Morgan y bydd gofyn i'r Bwrdd gynorthwyo gyda'r gwaith o
gasglu'r wybodaeth ofynnol gan y bydd yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyllid
a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Atgoffwyd y
Bwrdd y bydd Catharine Bray yn Bennaeth Cyllid dros dro tra bo Lisa Bowkett ar
gyfnod mamolaeth ac y byddai Catharine yn cwrdd ag aelodau'r Bwrdd Rheoli yn
unigol dros yr wythnosau sydd i ddod.
Cyfarfod: 15/08/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Adroddiad ar Reoli Cyllid – Gorffennaf 2017
Cofnodion:
Trafododd y Bwrdd yr Adroddiad ar Reoli Cyllid ar gyfer mis Gorffennaf. Nid
oedd llawer o adnoddau ariannol ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ac
roedd y pwysau ar adnoddau ariannol yn debygol o barhau'n sylweddol yn ystod
2018-19 gan fod rhai costau wedi'u gohirio tan y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Catharine Bray unwaith eto fod angen rheoli cyllidebau a
chynlluniau buddsoddi yn ofalus, creu rhagolygon yn rheolaidd a sicrhau eu bod
yn gywir. Roedd cyfarfodydd yn cael eu trefnu rhwng y tîm Cyllid a'r holl
Benaethiaid Gwasanaeth cyn dechrau'r tymor newydd, er mwyn sicrhau y gellid
paratoi'r amcangyfrifon gorau posibl o faint ac amseriad gwariant yn y dyfodol
erbyn canol mis Medi.
Cam i’w gymryd:
· Y Penaethiaid i sicrhau bod gan eu staff yr holl wybodaeth a sgiliau sydd
eu hangen arnynt i baratoi rhagolygon yn gywir. Gallai'r tîm Cyllid ddarparu
hyfforddiant ar y system gyllid newydd, NAV, yn ôl yr angen.
Cyfarfod: 20/07/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Adroddiad Rheolaeth Ariannol - Mehefin 2017
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 21
Cofnodion:
Trafododd y Bwrdd Rheoli yr Adroddiad Rheolaeth Ariannol ar gyfer mis
Mehefin. Roedd pwysau parhaus ar y gyllideb a disgwylir iddynt barhau am
weddill y flwyddyn ariannol hon. Ailadroddodd Nia yr angen am reolaeth ofalus o
gyllidebau a chynlluniau buddsoddi. Roedd y Bwrdd Adnoddau a Buddsoddi (IRB) yn
cwrdd ym mis Awst i ganolbwyntio ar gynlluniau capasiti, gofynion adnoddau a
phrosiectau buddsoddi arfaethedig eleni, gyda'r bwriad o gytuno ar y
blaenoriaethau absoliwt ar gyfer buddsoddi, tra'n cadw rhywfaint o gapasiti ariannol
ar gyfer anghenion annisgwyl. Cytunwyd y byddai'n ddefnyddiol cynnal Bwrdd
Rheoli arall cyn yr IRB er mwyn asesu blaenoriaethau cymharol ar draws yr holl
anghenion buddsoddi. Byddai'r cyfarfodydd hyn hefyd yn sail ar gyfer trafodaeth
bellach gyda Chomisiynwyr ar y cynigion cyllideb manwl yn y dyfodol,
blaenoriaethau ac amserlenni.
CAM I’W GYMRYD: Penaethiaid a Chyfarwyddwyr i roi
crynodeb o sefyllfa'r asesiad diwethaf ar gyfer gofynion adnoddau a nodwyd yn
ymarfer cynllunio capasiti mis Mawrth, gan amlygu beth sy'n dal i fod yn
hanfodol a beth sydd wedi newid, a oes ffyrdd eraill o gyflawni'r adnoddau nad
oes eu hangen mwyach, a risgiau a goblygiadau.
Cyfarfod: 25/05/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 11)
Adroddiad Rheolaeth Ariannol: Mawrth/Ebrill 2017
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 24
- Cyfyngedig 25
Cofnodion:
Amlinellodd Nia Morgan y sefyllfa
diwedd blwyddyn ac amlygodd yr angen i reolwyr ariannol mewn meysydd gwasanaeth
fod yn ymwybodol o'r tueddiadau flwyddyn ar ôl blwyddyn wrth ragfynegi. Byddai'n gweithio gyda Gareth Watts i adolygu
sut mae meysydd gwasanaeth yn rhagfynegi a sicrhau'r Bwrdd y byddai'r tîm
Cyllid yn rhoi'r holl gymorth sydd ei angen i helpu meysydd gwasanaeth i wneud
y penderfyniadau hynny.
Cyfarfod: 12/01/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Adroddiad Rheolaeth Ariannol – Rhagfyr 2016
Papur i’w nodi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 28
Cofnodion:
Amlinellodd Claire Clancy y sefyllfa ariannol ar hyn o bryd, a nododd fod y
Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau yn edrych ar y pwysau ar gyfer y flwyddyn ariannol
bresennol a’r nesaf. Hon yw’r flwyddyn fwyaf heriol, oherwydd gwaith ar raddfa
fawr a gofynion ychwanegol o ran adnoddau a nodwyd yn dilyn y broses cynllunio
cynhwysedd.
Gofynnwyd i’r Bwrdd sicrhau bod y tîm Cyllid yn cael y rhagolygon cywir,
diweddaraf gan y meysydd gwasanaeth, a nodwyd y dylid meddwl yn gynnar o ran y
cynlluniau capasiti, ac adnabod yn gynnar unrhyw fentrau newydd ar y gorwel.
Mae’r gwaith ar y strwythur pwyllgorau ar y trywydd iawn.
Cyfarfod: 12/05/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 9)
Adroddiad Rheolaeth Ariannol - Ebrill 2016
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 31
- Cyfyngedig 32
Cofnodion:
Hefyd, derbyniodd y
Bwrdd yr adroddiadau Cyllid ar gyfer mis Mawrth a mis Ebrill i'w nodi. Dywedodd
Nia Morgan wrth y Bwrdd fod costau'r etholiad o fewn y gyllideb o hyd, gan
ddisgwyl costau diswyddo staff cymorth Aelodau'r Cynulliad, nad oeddent ar gael
eto.
Cyfarfod: 25/01/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 12)
Yr adroddiad Rheoli Ariannol ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2015
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
Gofynnodd
Nicola Callow i benaethiaid gwasanaeth roi gwybod am unrhyw newidiadau i'r
rhagolygon maes gwasanaeth er mwyn gallu cyflwyno diweddariadau wythnosol i'r
Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau cyn diwedd y flwyddyn ariannol ac i baratoi ar
gyfer hynny.
Cyfarfod: 15/06/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Adroddiadau Rheoli Ariannol - Ebrill a Mai 2015
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38
- Cyfyngedig 39
Cofnodion:
Nododd y Bwrdd yr adroddiadau
rheoli gan ddweud bod y dangosfyrddau yn ddefnyddiol.